Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Camerâu cyflymder cyfartalog i鈥檞 gosod ar yr A548
Published: 15/11/2024
Bydd gwaith i osod camer芒u cyflymder cyfartalog ar yr A548 rhwng Llanerch-y-M么r a Mostyn yn cychwyn yr wythnos hon.
Mae鈥檙 mesur yn rhan o ymdrech ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd.
Nod y prosiect, sydd wedi鈥檌 ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw mynd i鈥檙 afael 芒 goryrru a chynyddu diogelwch ar hyd y ffordd hanfodol hon.
Mae鈥檙 A548 wedi ei nodi fel lleoliad o flaenoriaeth gan fod nifer sylweddol o wrthdrawiadau wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys sawl digwyddiad sydd wedi arwain at farwolaeth neu anafiadau difrifol. Bydd system y camer芒u cyflymder cyfartalog yn annog ymddygiad mwy diogel gan yrwyr ac yn gwella amodau鈥檙 traffig yn gyffredinol.
Mae disgwyl i鈥檙 gwaith gosod gymryd 4 wythnos a bydd yn cynnwys yr arwyddion rhybudd i roi gwybod i yrwyr am y mesurau gorfodi newydd.