Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwella hygyrchedd ar hyd y llwybr arfordirol yn sir y Fflint
Published: 15/11/2024
Bydd gwaith yn dechrau fis nesaf i wella hygyrchedd Llwybr Arfordir Cymru, fel rhan o brosiect newydd ac uchelgeisiol.
Mae cyllid wedi鈥檌 sicrhau o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint, ac fel rhan o鈥檙 gwaith hwn, mae adolygiad manwl wedi鈥檌 gynnal o hygyrchedd.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod bod yna sawl rhwystr ar hyd blaendraeth aber Afon Dyfrdwy ar hyn o bryd, sy鈥檔 cyfyngu ar allu pobl i fwynhau Llwybr Arfordir Cymru ac mae鈥檔 ei ystyried fel blaenoriaeth i wella mynediad.听
Gan weithio 芒鈥檔 partneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sustrans a gyda chynghorwyr lleol, byddwn yn dechrau鈥檙 broses o gael gwared ar rwystrau mynediad eleni, er mwyn sicrhau bod yr arfordir yn agored ac ar gael i bawb.
Meddai Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Chris Dolphin:听 鈥淒yma gam gwych ymlaen o ran cynwysoldeb. Mae aber Afon Dyfrdwy yn ased naturiol gwych ar gyfer ein cymunedau yn Sir y Fflint ac rwy鈥檔 falch iawn ar 么l misoedd o waith a chynllunio, ein bod bellach yn gallu gwneud y penderfyniad hwn i sicrhau y gall pawb ei fwynhau.
Bydd gwaith i gael gwared ar y rhwystrau yn dechrau yn Saltney cyn y Nadolig, ac yna鈥檔 symud yn syth i ardal Cei Connah. Bydd y gwaith o gael gwared ar y rhwystrau ar hyd yr aber cyfan yn cael ei wneud fesul cam, fel y cytunwyd 芒鈥檙 Heddlu, a bydd yn cyd-fynd 芒 phrosiect Parc Arfordir Sir y Fflint.
Ein gweledigaeth yw parc arfordir hygyrch sy鈥檔 dathlu amgylchedd naturiol a threftadaeth arfordir Cymru. Cyflawnir hyn drwy fuddsoddiad parhaus a thrwy weithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys arweinwyr cymunedol, busnesau a chyrff cyhoeddus sy鈥檔 rhannu鈥檙 weledigaeth ar gyfer parc arfordir.
Meddai Aelod Lleol Cei Connah, y Cynghorydd Debbie Owen: 鈥淩wyf wedi gweithio鈥檔 galed i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ystyried ac rwy鈥檔 falch iawn bod y canlyniad hwn, drwy鈥檙 gwaith o ddatblygu Parc Arfordir Sir y Fflint, wedi鈥檌 wireddu a bod y llwybr arfordir yn hygyrch i bawb yn Sir y Fflint ei fwynhau.鈥