每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Casgliadau Gwastraff

Published: 07/11/2024

Recycling.jpgHoffem ddiolch i鈥檔 preswylwyr am eu hymdrechion i ailgylchu, sydd wedi golygu ein bod wedi ailgylchu dros 62% o鈥檙 gwastraff rydym yn ei gasglu. Gan fod targedau ailgylchu cenedlaethol bellach wedi cynyddu i 70%, gyda鈥檔 gilydd, rydym oll angen chwarae ein rhan i fodloni鈥檙 her.

Darperir gwasanaeth casglu ailgylchu wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd, papur, cardfwrdd, potiau, tybiau a hambyrddau plastig, tuniau a chaniau metel i bob aelwyd, gyda gwasanaethau casglu ychwanegol ar gyfer cynnyrch hylendid amsugnol (e.e. clytiau), gwastraff meddygol a gwastraff gardd ar gael wrth danysgrifio. Pan fydd y gwasanaethau hyn yn cael eu defnyddio鈥檔 llawn, nid oes angen i ni gasglu鈥檙 biniau du mor aml, gan mai dim ond ychydig iawn o eitemau gwastraff nad ellir eu hailgylchu ar y stepen drws, neu drwy un o鈥檙 canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.听 Yr unig bethau a ddylid eu gadael yn y biniau du yw gwastraff nad ellir ei ailgylchu neu ei gompostio.

Mae casglu gwastraff y gellir ei ailgylchu bob wythnos yn hyrwyddo amgylchedd cartref iachach a glanach, gan fod gwastraff gydag arogl neu wastraff budr yn cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr yn fwy aml. Mae cynyddu鈥檙 swm o ailgylchu rydym yn ei gasglu hefyd yn helpu鈥檙 amgylchedd, trwy leihau鈥檙 swm o wastraff sy鈥檔 cael ei losgi ac felly鈥檙 swm o garbon sy鈥檔 cael ei ryddhau i鈥檙 atmosffer.

Ers mabwysiadu鈥檙 Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ym Mawrth 2024, mae nifer o gamau allweddol sydd wedi鈥檜 cynnwys yn y Strategaeth chwe blynedd wedi lansio, gyda鈥檙 nod o gynyddu ein cyfraddau ailgylchu. Un cam gweithredu sylfaenol yw cyfyngu ar y swm o wastraff gweddillol (gwastraff 鈥榗yffredinol鈥 nad ellir ei ailgylchu a roddir yn y biniau du ag olwynion) yr ydym yn ei gasglu, gyda鈥檙 nod o roi holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y cynwysyddion ailgylchu cywir, a gesglir yn wythnosol. Er mwyn gwneud hyn, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor newid i amlder y cesglir biniau du, a fydd yn newid o bob pythefnos i bob tair wythnos. Hefyd cafwyd cymeradwyaeth i ddarparu gwasanaeth casglu dros bum diwrnod gwaith yn hytrach na chwech. Ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i鈥檙 casgliadau gwastraff bwyd ac ailgylchu, a bydd y rhain yn parhau bob wythnos.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynllunio a pharatoi ar gyfer y newid mewn gwasanaeth a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a鈥檙 Economi y Cyngor ar 12 Tachwedd yn amlinellu鈥檙 cynllun gweithredu a鈥檙 cynllun cyfathrebu. Mae鈥檙 adroddiad yn nodi dyddiad gweithredu cyraeddadwy o 28 Ebrill 2025 ar gyfer y newid, sy鈥檔 caniat谩u digon o amser ar gyfer cynllunio a chaffael adnoddau.

Hoffem ddiolch i鈥檔 preswylwyr am eu cefnogaeth barhaus gyda鈥檔 gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu, a deallwn pa mor bwysig yw hyn i holl breswylwyr. Rydym eisiau darparu gwasanaeth o鈥檙 radd flaenaf, a dyna鈥檙 rheswm ein bod yn cymryd yr amser i baratoi a rhannu ein cynlluniau ar gyfer y newid yn llawn.听

Dywedodd y Cyng. Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant: 鈥淕yda鈥檔 gilydd, gallwn fynd i鈥檙 afael 芒 hyn! Mae 鈥済yda鈥檔 gilydd鈥 yn golygu POB UN OHONOM!!听 Byddwn ni fel Cyngor yn parhau i ddarparu鈥檙 dulliau i ailgylchu bob wythnos, ond bwysicaf oll, rydym angen i CHI, fel preswylwyr gefnogi drwy ailgylchu popeth posibl gan ddefnyddio鈥檙 dulliau a ddarperir. Mae targedau ailgylchu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi gosod Cymru ger brig y tabl ar gyfer ailgylchu, a gallwn oll chwarae ein rhan i barhau i gyflawni hyn.

Mae鈥檙 penderfyniad anodd i newid i gasgliadau bob tair wythnos ar gyfer ein biniau gwastraff cyffredinol du yn rhan o鈥檙 hyn sydd angen i ni wneud i fodloni听 targedau uwch sydd wedi鈥檜 gosod, a鈥檔 nod yw ceisio mynd i frig y tabl a bod y gorau. Ble mae Cymru鈥檔 mynd, mae eraill yn dilyn!鈥

Rydym yn annog pob preswylydd i adolygu eu harferion ailgylchu presennol, ac os oes angen, dylent gaffael mwy o fagiau, bocsys a chynwysyddion ychwanegol sydd eu hangen arnynt er mwyn sicrhau na fydd y newid i gasgliadau bin du yn eu heffeithio. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar y swm o gynwysyddion ailgylchu y gall unrhyw eiddo eu rhoi allan ar gyfer casglu, ond cyfyngir ar y bin du i un fesul eiddo ac ni fydd gwastraff ychwanegol tu allan i鈥檙 bin yn cael ei gasglu.听