Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dylunio i Atal Troseddu yn Nociau Cei Connah
Published: 03/10/2024
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod ei D卯m Adfywio wedi sicrhau 拢290,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) Llywodraeth y DU i wella ardal Doc Cei Connah.听 Ym mis Mai eleni, cymeradwywyd rhaglen o welliannau gan y cyllidwyr i helpu i 鈥榙dylunio i atal trosedd鈥 yn ardal Ffordd y Doc, rhan o raglen fuddsoddi ehangach ar draws trefi yn Sir y Fflint.听 Mae gwaith bellach ar y gweill ar y safle i wella goleuadau yn yr ardal, gosod camer芒u teledu cylch cyfyng a gwneud gwelliannau amgylcheddol.听
Ers amser maith, mae ardal Ffordd y Doc yng Nghei Connah wedi bod yn bryder i鈥檙 Cyngor a鈥檙 Heddlu.听 Ardal sydd i鈥檞 gweld yn cael ei hesgeuluso, sy鈥檔 llawn tipio anghyfreithlon a cherbydau/cychod wedi鈥檜 gadael, mae Ffordd y Doc yn cyfrif am 75% o鈥檙 holl droseddau a adroddir yng Nghei Connah ac mae鈥檔 faes targed 芒 blaenoriaeth ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau a phartneriaid y Cyngor. Nid oedd yr arian oedd ei angen i wneud y gwaith gwella angenrheidiol ar gael ac roedd ardal Ffordd y Doc yn parhau i fod mewn angen dirfawr am fuddsoddiad a gwelliant.
Amlygodd y Cynghorydd David Healey, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi, bryder lleol am yr ardal:听 鈥淩oedd angen dybryd i wella ardal Ffordd y Doc yng Nghei Connah ac mae buddsoddiad o gronfeydd SPF yn gam cyntaf hanfodol i wneud ardal y dociau yn fwy diogel a, gyda chymaint o botensial, ymhen amser gobeithio, a chyda buddsoddiad pellach, yn lle llawer mwy apelgar i drigolion ac ymwelwyr.鈥
Nod y buddsoddiad, sydd i鈥檞 gyflawni drwy鈥檙 prosiect newydd yn Nociau Cei Connah, yw y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal drwy wella diogelwch Ffordd y Doc a helpu i leihau ofn trosedd a gwneud i鈥檙 ardal deimlo鈥檔 fwy diogel i bobl leol. Sef, bydd y gwelliannau hyn yn cynnwys gosod teledu cylch cyfyng, gwell darpariaeth goleuadau a gwelliannau amgylcheddol.听 Gobeithir y bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd yr ardal yn llai dymunol i'r rhai sy'n ei defnyddio'n annymunol ac yn galluogi'r Heddlu a swyddogion gorfodi eraill i ymchwilio i drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.听

听