Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosiect siambrau claddu ar waith ym Mynwent Bwcle
Published: 21/08/2024
Mae gwaith wedi dechrau ar osod siambrau claddu concrid mewn mynwent yn Sir y Fflint i gynyddu capasiti at y dyfodol.
Petai鈥檙 fynwent yn parhau i gael ei defnyddio fel y mae ar hyn o bryd, fe fyddai Mynwent Bwcle yn llawn o fewn tua tair blynedd.
Er mwyn i鈥檙 afael 芒 hyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn dechrau ar brosiect uchelgeisiol a fydd yn ymestyn capasiti鈥檙 fynwent yn Elfed Drive am tua 15 mlynedd.
Mae eiddo preswyl yn amgylchynu鈥檙 fynwent bresennol gan olygu nad oes modd ei hymestyn.
Er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒 hyn, mae鈥檙 Cyngor yn gosod siambrau claddu concrid dan ddaear mewn ardal o dir isel nad oedd modd ei ddefnyddio鈥檔 flaenorol gan ei fod yn llawn dwr yn ystod misoedd y gaeaf. Yn rhan o鈥檙 gwaith, bydd lefel y tir yn cael ei godi i fod yr un lefel 芒 gweddill y fynwent.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth: 鈥淓rs blynyddoedd mae鈥檙 ardal yma wedi bod yn rhy wlyb i鈥檞 ddefnyddio ar gyfer claddedigaethau, serch hynny, bydd y prosiect hwn yn darparu mannau claddu gwerthfawr ym Mwcle.
鈥淢ae鈥檙 prosiect hefyd yn cynnig arbedion ariannol sylweddol o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 gost o orfod creu mynwent newydd yn ardal Bwcle petaem ni wedi gallu dewis tir addas.听
鈥淧an fyddwn ni wedi gorffen y prosiect, rhagwelir y bydd unrhyw rannau y mae鈥檔 rhaid i ni eu hadfer yn cael eu gwneud er mwyn cynnig manteision amgylcheddol drwy ddefnyddio hadau blodau gwyllt neu ddolydd lle y bo鈥檔 bosibl, o鈥檌 gymharu ag ail-hau gyda gwair safonol.鈥
Mae disgwyl i鈥檙 gwaith gael ei gwblhau erbyn canol mis Medi.
I gael rhagor o wybodaeth am ein mynwentydd, .