每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae鈥檙 Sgwad Cymorth Digidol yma!

Published: 14/03/2024

Mae cynhwysiant digidol yn flaenoriaeth yng Nghyngor Sir y Fflint ac mae鈥檙 Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau nad yw trigolion y sir yn cael eu cau allan o鈥檙 byd digidol.

Mae鈥檙 Cyngor newydd lansio gwasanaeth arloesol i drigolion y sir, lle mae gwirfoddolwyr o鈥檙 sefydliad, y Sgwad Cymorth Digidol, yn darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb a rhad ac am ddim i helpu pobl i fagu hyder i ddefnyddio technoleg ddigidol.Digital squad 1.jpg

Cynhaliwyd y gymhorthfa ddigidol gyntaf ddydd Gwener 8 Mawrth yn swyddfa Treffynnon yn Cysylltu. Rhai o鈥檔 hymwelwyr cyntaf oedd Mr a Mrs Roberts o Gilcain, ac maen nhw rwan yn gallu defnyddio eu dyfais i gadw mewn cysylltiad 芒鈥檜 teulu. Roeddent wedi dechrau colli gobaith o gael eu hail-gysylltu tan i鈥檔 Sgwad Cymorth Digidol ddatrys y broblem.

Roedden nhw wrth eu bodd gyda鈥檙 gefnogaeth.聽

Meddai Mr Roberts: 鈥淩oedd hyn wedi achosi problemau mawr i mi, roeddech chi鈥檔 wych, diolch.鈥澛

Roedd Mrs Roberts yr un mor ddiolchgar ar 么l gorfod dioddef Mr Roberts yn 鈥渃wyno鈥 ers peth amser!

Meddai鈥檙 Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol: 鈥淒yma fenter wych i鈥檔 cymunedau sy鈥檔 helpu ein trigolion i ddefnyddio dyfeisiau a gwasanaethu digidol, gan roi sgiliau a hyder iddyn nhw ymgysylltu 芒鈥檙 byd digidol. Dw i鈥檔 edrych ymlaen at weld ein Sgwad Cymorth Digidol yn estyn y gefnogaeth ar draws y sir.鈥澛

Gall y Sgwad Cymorth Digidol helpu pobl gydag amrywiaeth o bethau, gan gynnwys materion ariannol, iechyd, cymdeithasol, cyflogaeth, cyfathrebu a:聽

鈥 Defnyddio鈥檙 rhyngrwyd a chyfrifon e-bost

鈥 Cadw mewn cysylltiad 芒 theulu a ffrindiau

鈥 Dysgu am bethau sydd o ddiddordeb聽

鈥 Cefnogi ffrindiau, teulu neu gymdogion nad ydyn nhw mor gyfarwydd 芒 thechnoleg ddigidol

Ewch i Cyngor Sir y Fflint am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth ddigidol sydd ar gael.聽