Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
20 mya: Cyfle i breswylwyr Sir y Fflint gynnig eithriadau
Published: 22/11/2023
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cadarnhau y bydd preswylwyr yn parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf, a chyfleoedd i nodi ffyrdd y gellir eu hystyried ar gyfer eithriadau i鈥檙 rheol 20mya, cam wrth gam.聽
Mae鈥檙 Cyngor wedi gweithio mewn dull cam wrth gam o ran asesu ffyrdd cyfyngedig yn y sir, a oedd yn cynnwys Cynghorwyr Sir lleol yn enwebu ffyrdd i鈥檞 hasesu i gychwyn. O ganlyniad, mae 12 ffordd nawr yn y broses o ddychwelyd i fod yn 30mya, yn dilyn ymgynghoriad yn ystod yr haf, a gellir canfod manylion ar Wefan y Cyngor.
Bydd Cam 2, sy鈥檔 cychwyn heddiw, yn rhoi cyfle i breswylwyr gynnig ffyrdd i鈥檞 heithrio. I awgrymu ffordd i鈥檞 heithrio, llenwch ffurflen ar-lein .
Fel yr amlinellwyd o fewn y canllawiau Llywodraeth Cymru, ni fydd pob ffordd yn bodloni鈥檙 meini prawf ar gyfer gwneud cais am eithriad ac wrth ystyried gwneud eithriadau, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 awdurdod lleol ddangos bod 鈥榯ystiolaeth gref鈥 yn bodoli o ran diogelwch cyflymder uwch ac mae angen iddynt ddangos achos clir a rhesymegol.
Mae鈥檙 Cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i asesu effaith y terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd ac yn sicrhau bod dull cyson i eithriadau ar draws Cymru yn cael ei gymryd.聽 聽Rydym yn croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd gydag awdurdodau priffordd i adlewyrchu ar gymhwysiad y canllawiau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a鈥檙 Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol: 鈥淩ydym wedi derbyn adborth cadarnhaol a negyddol gan nifer o drigolion ar y terfynau cyflymder 20mya, ac fel bob amser, byddwn yn ystyried adborth yn ein gwaith ehangach a pharhaus i adolygu ceisiadau am eithriadau ac effeithiau鈥檙 terfynau cyflymder 20mya diofyn newydd鈥.