Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn croesawu鈥檙 gefnogaeth ar gyfer Parth Buddsoddi £80 miliwn
Published: 16/11/2023
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu鈥檙 newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi鈥檙 cynlluniau i greu Parth Buddsoddi 拢80 miliwn yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Rhannodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething y newyddion yn y Senedd yn dilyn yr ymgyrch yn Wrecsam a Sir y Fflint a ddenodd gefnogaeth drawsbleidiol.
Mae鈥檔 rhan o gynllun Llywodraeth DU i greu 12 Parth Buddsoddi ar draws y wlad.聽 Credir y bydd yn denu 拢1.7 biliwn o fuddsoddiad pellach yn yr ardal ac yn helpu i greu miloedd o swyddi newydd.聽
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淔e all fod yn benderfyniad nodedig a fydd yn sicrhau buddsoddiad o 拢80 miliwn i Sir y Fflint a Wrecsam dros y pedair blynedd nesaf.聽 Gobeithiaf y bydd yn helpu i gryfhau ein diwydiannau allweddol, yn ogystal 芒 chyflwyno a datblygu rhai newydd.聽
鈥淩wy鈥檔 falch iawn o鈥檙 ffordd y mae busnesau a gwleidyddion wedi gweithio gyda鈥檌 gilydd i gyrraedd y cam hwn.聽 Hoffem ddiolch i bawb am eu cyfraniadau ac am gyflwyno achos mor gryf ar gyfer Parth Buddsoddi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.鈥
Mae鈥檙 grwp yn cynnwys Moneypenny, JCB, Airbus, Net World Sports, Theatr Clwyd, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint, Prifysgol Wrecsam ac AMRC Cymru, ac yn cael ei gadeirio gan Joanna Swash a Phrif Swyddog Gweithredol Grwp Moneypenny.
Bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu ar y gefnogaeth y bydd yn ei darparu i barthau buddsoddi yng Nghymru cyn neu fel rhan o broses Datganiad yr Hydref.