Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wedi lansio ymchwiliad i lifogydd yn Sir y Fflint ar ôl Storm Babet
Published: 01/11/2023
Disgwylir i waith trwsio priffyrdd a systemau draenio yn Sir y Fflint i gymryd misoedd ar 么l Storm Babet.
Roedd y sir wedi dioddef o lifogydd difrifol ar ddydd Gwener, 20 Hydref gyda chyfanswm enfawr o ddwr yn gorlethu isadeiledd Sir y Fflint ac yn achosi difrod torcalonnus i gartrefi pobl.
Cafodd gweithrediadau priffyrdd a gwasanaethau stryd eu gohirio dros dro er mwyn helpu gyda鈥檙 gwaith ymateb ac fe weithiodd staff trwy gydol y penwythnos i glirio dwr oedd yn sefyll, cael gwared ar falurion ac i gefnogi preswylwyr.
Yn ystod y cyfnod roedd mwy na 20 o ffyrdd wedi cael eu cau dros dro, gyda mwy na 1,650 o fagiau tywod yn cael eu dosbarthu i鈥檙 rheiny oedd eu hangen, 183 o asedau wedi鈥檜 clirio/glanhau a sawl ffos a chwrs dwr wedi鈥檜 clirio.
Roedd canolfan orffwyso yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug i gefnogi鈥檙 rheiny oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi ac roedd swyddogion y Cyngor wedi trefnu gwesty i 8 o unigolion dros y penwythnos.
Efallai bod preswylwyr sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd difrod llifogydd yn gymwys am eithriad Treth y Cyngor. Mae eithriadau ar gael ar gyfer hyd at 6 neu 12 mis yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw鈥檙 difrod a natur y gwaith sydd angen ei wneud.聽
Yn ystod y cyfnod hwn bydd cartrefi yn gymwys os ydyn nhw鈥檔 cwrdd 芒鈥檙 amodau canlynol:
- Eu bod wedi gorfod gadael eu heiddo oherwydd y llifogydd; ac
- Mae niwed sylweddol wedi cael ei achosi i鈥檞 heiddo yn fewnol ac mae angen gwneud gwaith arno cyn y gellir byw ynddo eto.
Mae gwasanaeth Treth y Cyngor ar gael i roi cyngor a chefnogaeth i aelwydydd sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd ac os oes gennych unrhyw gwestiynau ar sut y gall hyn effeithio eich taliadau treth y cyngor.聽 Am arweiniad pellach cysylltwch 芒鈥檙 T卯m Treth y Cyngor ar 01352 704848 Dewis 1, neu anfonwch e-bost at local.taxation@flintshire.gov.uk
Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant: 鈥淒wi鈥檔 falch iawn o ymdrechion y rheiny ddaeth at eu gilydd i ymateb i Storm Babet. Dyma un o鈥檙 digwyddiadau llifogydd mwyaf sylweddol yn Sir y Fflint am lawer o flynyddoedd ac er gwaethaf y cyfanswm o law wnaeth ddisgyn mewn cyfnod mor fyr fe weithiodd y swyddogion yn gyflym i wneud yn siwr fod priffyrdd yn ddiogel a bod preswylwyr yn cael eu cefnogi.鈥
Mae ymchwiliad i鈥檙 llifogydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd ac yn cael ei arwain gan ymgynghorwyr annibynnol arbenigol, Waterco. Bydd meysydd allweddol sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd yn derbyn llythyr yn gofyn i breswylwyr roi cyn gymaint o wybodaeth ac sy鈥檔 bosib ar effaith y llifogydd arnyn nhw.
Dyma ran hanfodol o鈥檙 asesiad a bydd yn helpu gyda鈥檙 ymchwiliad a fydd hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth gan fudd-ddeiliaid allweddol gan gynnwys Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.聽 Yna bydd yr adroddiad yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i geisio cael cyllid am gynlluniau i wella amddiffyniad rhag llifogydd yn Sir y Fflint.