每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynghorwyr yn paratoi i adolygu鈥檙 gyllideb

Published: 08/09/2023

Bydd Aelodau鈥檙 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cyfarfod ddydd Iau i dderbyn diweddariad ar sefyllfa ariannol y cyngor ar gyfer 2024/25.

Mae鈥檙 cyfarfod hwn yn dilyn cyfarfod ym mis Gorffennaf pan gafodd yr aelodau eu cynghori bod gofyniad cyllidebol o tua 拢32 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Ers hynny mae gwaith ychwanegol wedi鈥檌 wneud i geisio atebion a hyd yma llwyddwyd i ddod o hyd i 拢18 miliwn, sydd yn gadael bwlch o 拢14 miliwn.

Dywedodd Gary Ferguson, Rheolwr Cyllid Corfforaethol: 鈥淵n amlwg mae鈥檙 cyngor yn wynebu her gyllidebol fawr ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 os nad oes unrhyw gynnydd yn y setliad arfaethedig o 3.1% gan Lywodraeth Cymru.

鈥淎r hyn o bryd y swm y mae angen dod o hyd iddo i sicrhau cyllideb gyfreithlon a mantoledig yw 拢14 miliwn a bydd yn rhaid i鈥檙 cyngor ystyried ar fyrder ragor o ostyngiadau mewn costau ar raddfa sylweddol i bontio鈥檙 bwlch hwnnw fel mater o flaenoriaeth鈥.

Fodd bynnag dynodwyd sawl risg a fydd o bosib yn rhoi rhagor o bwysau ar y gyllideb.

Mae mwy a mwy o bobl yn troi at y gwasanaeth digartrefedd am gymorth ac mae鈥檙 gorwariant rhagamcanol yn y flwyddyn ariannol bresennol wedi codi i 拢2.4m dros yr haf.

Mae鈥檙 pwysau parhaus ar ofal cymdeithasol a鈥檙 adolygiad o鈥檙 Strategaeth Gwastraff hefyd yn debygol o effeithio ar gostau, yn ogystal 芒 chanlyniad y dyfarniadau cyflog sydd yn dal i gael eu trafod a鈥檜 cytuno鈥檔 genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid: 鈥淏ydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gyflwyno achos cryf am听 setliad gwell i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr 芒 chynghorau Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar hyn,听 er wrth gwrs yn cydnabod fod gan Lywodraeth Cymru ei hun sefyllfa gyllidol heriol i fynd i鈥檙 afael 芒 hi.

鈥淚 sicrhau y gall ein cyngor ddiogelu ei sefyllfa ariannol ar gyfer y dyfodol a鈥檌 fod yn barod i wynebu heriau cyllidebol anorfod eraill yn y dyfodol, bydd yn rhaid i ni ystyried mesurau a allent gynnwys datblygu a thrawsnewid radical yn y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.鈥

听Bydd y pwysau costau a鈥檙 gostyngiadau mewn costau sydd wedi鈥檜 hadnabod hyd yma yn cael eu hystyried gan y pwyllgorau trosolwg a chraffu perthnasol.