每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadeirydd yn llongyfarch athletwr arbennig

Published: 05/12/2018

Ana.jpgCroesawodd Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham, Anastasia Blease i Neuadd y Sir yn ddiweddar.

Mae Anastasia yn 14 mlwydd oed ac yn ddisgybl blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn.

Hi yw鈥檙 unig chwaraewr o Gymru yn nh卯m p锚l fasged cadair olwyn Prydain Fawr.

Mae Ana yn chwarae i d卯m Knights Gogledd Cymru a hi oedd chwaraewr benywaidd cyntaf y t卯m ieuenctid. Pan roedd hi ym mlwyddyn 8, roedd hi鈥檔 is-gapten ar d卯m ieuenctid Cymru ac fe helpodd hi nhw i ennill y wobr arian ym mhencampwriaethau p锚l fasged cadair olwyn Caerwrangon. Roedd yn foment hanesyddol, gan nad oedd yr un t卯m arall o Gymru wedi perfformio cystal.

Ym mis Mawrth eleni, dewiswyd Ana ar gyfer t卯m dan 24 mlwydd oed Prydain Fawr, ac fe deithiodd i鈥檙 Iseldiroedd i wersyll p锚l fasged merched rhyngwladol lle'r oedd cyfle iddi ehangu ei gwybodaeth am y g锚m ac ennill profiad o chwarae gyda, ac yn erbyn chwaraewyr rhyngwladol.

Yn 14 mlwydd oed, hi yw aelod ieuengaf t卯m dan 24 mlwydd oed Prydain Fawr a enillodd Bencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar.Enillodd y t卯m bob g锚m yn y twrnamaint, ac maent nawr wedi ennill eu lle ym Mhencampwriaeth y Byd yng Ngwlad Thai'r flwyddyn nesaf.

Eleni, fe enillodd hi Wobr Dyfodol Disglair Ymddiriedolaeth Richard Langhorn, sy鈥檔 nodi unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad anhygoel i b锚l fasged cadair olwyn.Enillodd hi wobr 鈥淧erson Ifanc Byd Chwaraeon y Flwyddyn鈥 yng Ngwobrau Chwaraeon Cymuned Sir Ddinbych yn Llangollen hefyd.

Dyma ferch ifanc arbennig a ddewiswyd gan #IamEmbolden Anabledd Cymru fel Llysgennad 鈥 gan chwalu stereoteipiau, cyflawni pethau anhygoel a chreu newid cadarnhaol. Mae hi鈥檔 gobeithio chwarae yn y Gemau Paralympaidd un diwrnod.