每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canol Tref Treffynnon

Published: 19/11/2018

Bydd cais i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi cynnig i dynnu Gorchymyn Parth Cerddwyr o Stryd Fawr Treffynnon yn barhaol pan maent yn cyfarfod ar 20 Tachwedd.

Mae gan Ganol Tref Treffynnon barth penodol i gerddwyr ar y Stryd Fawr, a bu cryn ddadlau dros y blynyddoedd ynghylch yr effaith y cafodd y trefniant ar fusnesau鈥檙 Stryd Fawr, oherwydd nid oes modd i siopwyr daro heibio am ymweliad sydyn neu gasglu eitemau siopa yn hawdd.聽

Ym mis Gorffennaf, derbyniodd Gyngor Sir y Fflint ddeiseb, a arwyddwyd gan dros 500 o breswylwyr a busnesau yn Nhreffynnon, yn gwneud cais i dynnu鈥檙 Gorchymyn Parth Cerddwyr, gan ganiat谩u i draffig gael mynediad i ganol y dref, a sicrhau bod lleoedd parcio am ddim ac arhosiad byr yn y dref. Cytunodd y Cyngor ar gyflwyniad peilot o drefniant nad oedd yn cynnwys parth cerddwyr ar y stryd fawr, sy鈥檔 dod i ben fis Rhagfyr.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淢ae鈥檙 Cyngor wedi gweithio gyda Chyngor Tref Treffynnon ac wedi cytuno ar gyfnod prawf i dynnu鈥檙 Gorchymyn fel y gellir cynnal asesiad ar fudd tynnu鈥檙 Gorchymyn yn barhaol.聽聽

Er bod y cyfnod prawf ar fin dod i ben ar 么l y Nadolig, cynhaliwyd adolygiad 6 mis o鈥檙 effaith, a daeth i鈥檙 casgliad bod budd lleol a chefnogaeth i dynnu鈥檙 Gorchymyn yn barhaol.聽 Mae Cyngor y Dref felly, yn cefnogi diddymu鈥檙 Gorchymyn.鈥

Oherwydd nad oes nawdd ar gael i gynnal y gwaith angenrheidiol sydd wedi鈥檌 amcangyfrif i fod yn 拢800,000, gofynnir i'r Cabinet gytuno bod swyddogion y Cyngor yn cydweithio gyda Chyngor y Dref a busnesau lleol i nodi nawdd posib ar gyfer y cynllun.

Pan fydd y cyfnod peilot yn dod i ben ym mis Ionawr, bydd angen adfer y Gorchymyn Parth Cerddwyr gwreiddiol oherwydd ni all y gwaith ffordd presennol gynnal effeithiau tymor hir y traffig yn ei gyflwr presennol. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio cydweithio i ddod o hyd i nawdd ar gyfer y gwaith, ac i鈥檞 gynnal cyn gynted 芒 phosib.