Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cludiant i鈥檙 ysgol 鈥 anghysondebau
Published: 19/11/2018
Bydd Cabinet Sir y Fflint yn trafod newid i rai trefniadau cludiant ysgol anstatudol pan mae鈥檔 cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis.
Cwblhawyd astudiaeth o gludiant i鈥檙 ysgol fis Medi y llynedd, a daeth o hyd i nifer o wyriadau oddi wrth y polisi (sy'n cael ei galw'n anghysondebau) mewn perthynas 芒 darparu cludiant i'r ysgol. O ystyried yr heriau ariannol sy鈥檔 wynebu鈥檙 Cyngor, cynigir y dylai'r anghysondebau hyn gael eu diddymu o fis Gorffennaf 2020 ymlaen, gan roi 12 mis o rybudd i rieni er mwyn iddynt allu trefnu cludiant arall.聽聽
Mae鈥檙 Cyngor hefyd yn adolygu鈥檙 cymorthdaliadau mae鈥檔 eu darparu i weithredwyr bysiau masnachol, a allai arwain at derfynu rhai gwasanaethau bysiau sy'n derbyn cymorthdaliadau ac sy'n cael eu defnyddio gan ddisgyblion anghymwys. Yn yr achosion hyn, byddai鈥檙 disgyblion yn cael cynnig lle ar fysiau ysgol am bris gostyngol a byddai bysiau mwy'n cael eu defnyddio i ateb y galw ychwanegol. Eto, bydd y trefniadau hyn yn cael eu cynnal tan fis Gorffennaf 2020, i ganiat谩u i rieni wneud trefniadau eraill ar gyfer eu plant.
Yn 么l y gyfraith, mae angen i鈥檙 Cyngor ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol sy鈥檔 mynd i ysgol uwchradd ac sy'n byw 3 milltir neu fwy oddi wrth eu hysgol addas agosaf a 2 filltir neu fwy o鈥檙 ysgol gynradd. Mae Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Sir y Fflint yn adlewyrchu hyn.聽聽
Os yw disgyblion wedi methu 芒 sicrhau lle yn yr ysgol addas agosaf, bydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i'r ysgol addas agosaf wedyn, cyhyd 芒 bod y meini prawf pellter yn cael eu bodloni dan y polisi cyfredol a bod cyfiawnhad i ddangos pam nad yw plentyn yn mynd i'r ysgol addas agosaf.
Fodd bynnag, os yw dysgwyr yn mynegi eu bod yn ffafrio ysgol, iaith neu ffydd benodol, nid yw hyn yn golygu bod ganddynt hawl i gludiant am ddim, oni bai y pennir mai honno yw鈥檙 ysgol addas agosaf i鈥檙 dysgwr a bod y dysgwr yn bodloni鈥檙 meini prawf pellter.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hon yn sefyllfa anodd gan fod Sir y Fflint, wrth gwrs, eisiau rhoi cymaint o ddewis 芒 phosib鈥 i ddisgyblion, ond dan yr amgylchiadau, mae hefyd angen i ni edrych ar y ffyrdd mwyaf cost-effeithiol ac effeithlon o weithio.聽 Mae Sir y Fflint yn gwario tipyn yn fwy ar gludiant ysgol nag awdurdodau lleol eraill ac, felly, mae angen adolygu ein polisi ni, o gofio'r sefyllfa ariannol."
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:聽
鈥淏ydd y polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cael ei roi ar waith heb eithriad ac os bydd plentyn, o ganlyniad i ddewis y rhieni, yn mynd i ysgol ar wah芒n i'r un agosaf atynt, dylai'r rhieni wybod na fydd eu plentyn yn cael cludiant am ddim a bydd angen talu.聽 聽Mae ceisiadau am le mewn ysgolion yn cael eu gwneud rwan ar gyfer Medi 2019 ac mae angen i rieni ddeall y Polisi Cludiant i'r Ysgol wrth benderfynu.鈥澛