每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr llwyddiannus i fyd arlwyo

Published: 31/10/2018

Mae Cymunedau dros Waith Sir y Fflint yn dathlu llwyddiant dau o鈥檜 cyn-鈥渄disgyblion鈥 a fynychodd gwrs 鈥淟lwybr i fyd Arlwyo鈥 y llynedd, a gynhaliwyd mewn partneriaeth 芒 Chymdeithas Tai Clwyd Alyn.

Rhoddodd y cwrs gyfle i drigolion lleol ennill hyfforddiant, sgiliau a phrofiad ym meysydd arlwyo a swyddogaethau domestig.

Cafodd Janet Bentley ei chyfeirio at Cymunedau dros Waith gan y ganolfan waith, ac Alex Jones drwy鈥檙 swyddog cyswllt rhieni yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint.Nid oedd yr un o鈥檙 ddau wedi gweithio ers rhai blynyddoedd pan aethant ar y cwrs Llwybr Arlwyo gan ennill nifer o gymwysterau yn cynnwys hylendid bwyd, codi a symud corfforol, iechyd a diogelwch a gwasanaeth cwsmeriaid.

Yn ystod y 12 mis ers cwblhau鈥檙 cwrs Llwybr, mae Janet ac Alex ill dau wedi derbyn cefnogaeth gan fentor. Roedd modd i鈥檙 ddau gwblhau lleoliadau gwaith yng Nghaffi鈥檙 Hen Lys yn Y Fflint, Llys Eleanor yn Shotton, ac yn adran arlwyo Hamdden Aura.

Mae鈥檙 ddau bellach wedi sicrhau swyddi yng nghyfleuster newydd sbon Llys Raddington yn y Fflint.

Meddai Alex:

鈥淩oedd y mentora a鈥檙 profiad gwaith yn dilyn y cwrs yn wych, ac roedd o gymorth mawr i mi wrth wella fy CV a sicrhau profiad gwaith diweddar. Mae fy hyder ac fy sgiliau wedi cynyddu鈥檔 aruthrol.鈥

Dywedodd Janet:

鈥淢ae鈥檙 profiad cyfan wedi bod mor gadarnhaol ac wedi gwneud cymaint o wahaniaeth.Rwyf wedi ennill cymwysterau a sgiliau ac mae gen i bellach swydd fel cymhorthydd arlwyo yn y gyfleuster newydd arbennig yma yn y Fflint.鈥

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:

鈥淢ae hon yn stori newyddion wirioneddol dda sydd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau fel Cyngor Sir Y Fflint a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn yn gweithio mewn partneriaeth 芒鈥檌 gilydd.Nid yn unig y mae鈥檙 merched hyn wedi ennill cymwysterau a phrofiadau gwerthfawr, ond maent wedi cael eu cefnogi wrth ddychwelyd i fyd gwaith.鈥

Meddai Lisa Ramage, Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu Grwp Tai Pennaf, sydd yn cynnwys Cymdeithas Tai Clwyd Alyn:

鈥淩ydym wrth ein boddau i fod yn cefnogi鈥檙 fenter arbennig hon trwy ddarparu lleoliadau gwaith gyda鈥檔 cynlluniau amrywiol, lle y gall y sawl sydd dan hyfforddiant gynyddu eu hyder a鈥檜 sgiliau ymarferol er mwyn ychwanegu at eu CV a thrafod mewn cyfweliadau.

鈥淢ae鈥檔 deyrnged i bawb sydd ynghlwm 芒鈥檙 gwaith 鈥 gan gynnwys y rhai dan hyfforddiant, ein rheolwyr cynllun a Groundwork Gogledd Cymru, a ddarparodd yr hyfforddiant arbennig 鈥 y bu canlyniad mor llwyddiannus.

鈥淩ydym yn falch iawn o fod 芒 Janet ac Alex fel rhan o'r t卯m yn Llys Raddington. Dymunwn y gorau iddynt ac hoffem eu llongyfarch ar eu gwaith caled.鈥

Mae Cymunedau dros Waith yn raglen gan Lywodraeth Cymru sydd yn gweithio i gefnogi, uwchsgilio a chynnig profiadau i unigolion a fydd yn helpu i wella eu cyfleoedd cyflogaeth.

Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sydd yn gweithredu ar draws chwe sir yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

IMG_0128.JPGNia Parry a Debbie Barker听Cymunedau am Waith 听a Mwy, Alex a Janet, Lisa Ramage a Carol Thomas

Y Bwyty

IMG_0130.JPG