Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dadorchuddio Gwaith celf Cofeb Newydd Bwcle
Published: 23/10/2018
Mae Prosiect Cofeb Celf Cyhoeddus Bwcle yn dod i'w ben fis Hydref gan fod y gwaith celf ei hun yn cael ei osod ar safle Precinct Way Bwcle ger siop Aldi, ar hen safle'r Lleng Frenhinol Brydeinig. Croeso i bawb ddod i鈥檙 digwyddiad dadorchuddio am 11am ddydd Sadwrn 27 Hydref pan fydd y gofeb yn cael ei hailagor yn swyddogol. Bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn yn Llyfrgell Bwcle.听
Wedi ei arwain gan grwp llywio cymunedol, ac wedi galwad agored a chyfnod o ymgynghori gyda鈥檙 gymuned, comisiynwyd y cerflunydd o Nottingham, Richard Janes, i greu cerflun dur gwrthstaen sy鈥檔 edrych fel adenydd ac sydd ag amrywiol ystyron fel colomen heddwch ac angen gwarcheidiol, ac sy鈥檔 cyfeirio at gofebau rhyfel traddodiadol, ond gydag elfen gyfoes. Mae鈥檙 adenydd hefyd yn cynnwys dyluniadau a wnaed gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Elfed.听
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 darn hardd hwn o gelf wedi ei gomisiynu a'i ddewis gan y gymuned leol i gofio am filwyr a fu farw. Chwaraeodd disgyblion o Ysgol Elfed, aelodau o鈥檙 Lleng Brydeinig Frenhinol ac arian cynllunio Adran 106 o ddatblygiad Aldi ran, drwy ddewis yr artist Richard Janes sydd wedi creu cerflun addas er mwyn nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf."听
Meddai Cadeirydd Lleng Frenhinol Brydeinig Bwcle, Steve Evans:听
鈥淓rs i鈥檙 clwb gael ei chwalu mae safle鈥檙 gofeb wedi dioddef o ddiffyg gwaith atgyweirio, ac rydym yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr ag aelodau o鈥檙 gymuned i ail-siapio鈥檙 gofeb a sicrhau bod gennym safle priodol i gofio鈥檙 rheiny o Fwcle a wnaeth yr aberth eithaf.鈥澨
Meddai Maer Tref Bwcle, y Cynghorydd David Ellis, sy'n aelod o'r grwp llywio:听听
鈥淩ydym yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda'r gymuned i benderfynu ar waith celf sy'n cael ei osod ar hen safle'r Lleng Frenhinol Brydeinig. Rydw i鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn ei le ar y safle, ac yn gobeithio y bydd y dref gyfan yn gwerthfawrogi鈥檙 amser a鈥檙 ymdrech mae鈥檙 gwirfoddolwyr wedi ei roi i鈥檙 prosiect hwn er mwyn eu gwneud yn falch o Bwcle.鈥澨
Bydd cyfle i gwrdd yr artist ac aelodau o鈥檙 panel dethol yn Llyfrgell Bwcle wedi鈥檙 dadorchuddiad.听
Mae Richard Janes yn gerflunydd proffesiynol, sy鈥檔 creu gwaith celf drwy gomisiwn a phreswyliad gyda mwy nag ugain mlynedd o brofiad o brosiectau llwyddiannus yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn y gorffennol mae wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, asiantaethau amgylcheddol, grwpiau cymunedol, ysgolion a chleientiaid preifat i ddylunio, datblygu a chreu gwaith celf gwreiddiol
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听