每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yr Hen Hufenfa, Cei Connah

Published: 19/10/2018

Old Dairy 01.jpgDywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint,听Cyng. Bernie Attridge, Dawn Kent, Mick Cunningham, Alex Phillips and Melville Evans

Rydym wedi cwblhau gwaith ar 6 o dai cyngor newydd fel rhan o ddatblygiad safle鈥檙 Hen Hufenfa, Ffordd yr Wyddgrug, Cei Connah.

Mae Rhaglen Dai ac Adfywio Strategol (RhTAS) pum mlynedd y cyngor, a ddechreuodd yn ystod haf 2015 mewn partneriaeth 芒 Wates Residential North. Rydym wedi gweithio ar y cynllun diweddaraf hwn yn dilyn cwblhad llwyddiannus o gynlluniau ar draws y sir sy鈥檔 darparu 82 o dai cyngor newydd a 62 eiddo fforddiadwy yn Llys Custom House a Llys St Mark鈥檚 yng Nghei Connah, Llys Alexandra, Yr Wyddgrug, Maes y Meillion a Heol y Goron yng Nghoed-Llai a The Walks, Y Fflint.

Mae gwaith ail-ddatblygu hen Ganolfan Melrose yn Shotton hefyd yn mynd rhagddo, a fydd yn darparu 9 ty cyngor newydd yn hwyrach yn ystod y flwyddyn, a bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar safleoedd Maes Gwern, Yr Wyddgrug, Llys Dewi, Penyffordd (Treffynnon), hen Ddepo鈥檙 Cyngor, Dobshill a Nant y Gro, Gronant.

Dywedodd Y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Lleol Ward Canolog Cei Connah;

鈥淢ae rhaglen dai uchelgeisiol y cyngor bellach wedi darparu 144 o dai cyngor fforddiadwy o鈥檙 radd flaenaf ac mae鈥檔 parhau i osod meincnod cenedlaethol ar gyfer ansawdd a dylunio. Mae鈥檙 datblygiadau hyn wrth wraidd ein cymunedau trefol a gwledig lleol a byddant yn cyfrannu at gynaliadwyedd y cymunedau hyn ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth.

鈥淵n ogystal 芒 darparu tai cyngor newydd, mae datblygiad yr Hen Hufenfa wedi rhoi bywyd i safle sydd wedi bod yn prysur ddadfeilio am sawl blwyddyn bellach, ac mae wedi gwella'r strydwedd ar y brif ffordd drwy'r dref.

鈥淔odd bynnag, er ein bod wedi gwneud cynnydd rhagorol hyd yma, mae鈥檔 rhaid i ni gadw momentwm ein cynlluniau i ateb y galw am dai cymdeithasol, a byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cap ar fenthyca鈥檙 cyngor er mwyn i ni allu adeiladu mwy i ddiwallu鈥檙 angen lleol.鈥

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Lleol Ward Canolog Cei Connah:

鈥淢ae angen brys a pharhaus am dai cyngor gyda rhent fforddiadwy, ac wrth i鈥檙 galw am dai fforddiadwy a chymdeithasol barhau i gynyddu yn ein cymunedau, rydym yn benderfynol o ddarparu mynediad at dai cymdeithasol o鈥檙 radd flaenaf i'n pobl.

鈥淢ae鈥檙 datblygiad diweddaraf yn yr Hen Hufenfa yn amlygu鈥檙 cynnydd arbennig sydd wedi鈥檌 wneud mewn ychydig iawn o amser ers i raglen dai鈥檙 cyngor ddechau, ac rwyf yn hyderus y byddwn yn parhau i ychwanegu at ein llwyddiannau hyd yma.

鈥淵n unol 芒 chynlluniau blaenorol, bydd polis茂au gosodiadau lleol yn cael eu datblygu gan y Cyngor ar gyfer pob un o鈥檙 cynlluniau arfaethedig a byddwn yn sicrhau bod y ddaliadaeth a鈥檙 gymysgedd o eiddo ar gyfer y cynlluniau yn adlewyrchu鈥檙 angen o ran tai o fewn pob cymuned.鈥 听听听

Dywedodd Richard Shroll, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential North:

鈥淏ydd cwblhau datblygiad yr Hen Hufenfa yng Nghei Connah unwaith eto鈥檔 dangos cryfder partneriaeth Wates Residential North gyda Chyngor Sir y Fflint, a鈥檔 hymrwymiad ar y cyd i greu tai o鈥檙 radd flaenaf i bobl leol. Mae ein gwaith ar draws Sir y Fflint yn dechrau magu traed ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ychwanegu at ein llwyddiannau drwy gyflwyno llawer o gartrefi newydd yr ydym eu hangen yn y sir.