Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gofalwyr Maeth Sir y Fflint yn ennill Gwobrau Maethu
Published: 25/10/2018
Mae dau deulu maeth lleol Cyngor Sir y Fflint wedi eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo maethu genedlaethol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llundain (ar 24 Hydref 2018).
Gwobrau Rhagoriaeth Maethu, a gaiff eu cynnal gan y Rhwydwaith Maethu, yw鈥檙 prif wobrau gofal maeth yn y DU. Maent yn dathlu cyflawniad rhagorol ac amlwg mewn maethu ac yn cydnabod y rheiny sy鈥檔 gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maeth bob blwyddyn.
Yn ei bedwaredd flwyddyn bellach, mae Gwobrau Rhagoriaeth Maethu yn rhoi sylw i rai o bobl ifanc, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol ac eraill sydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i鈥檙 gymuned faethu.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn gyflawniad gwirioneddol wych, a hoffwn longyfarch yr enillwyr haeddiannol. Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd 鈥 ar lefel bersonol ac ar ran Cyngor Sir y Fflint 鈥 i bob un o鈥檔 gofalwyr maeth. Mae gofalwyr maeth da yn gwneud gwahaniaeth i ddyfodol plant a'u cyfleoedd mewn bywyd. Maent yn agor eu cartrefi i ddarparu amgylchedd teuluol diogel, gofalgar a llawn maeth lle gall plant ddatblygu a ffynnu, a chyrraedd eu llawn botensial.听 Rydym yn chwilio am fwy o bobl i fod yn ofalwyr maeth, am wybodaeth bellach, cysylltwch 芒 Gwasanaeth maethu Sir y Fflint."听
Cyfraniad Rhagorol gan Wobr Meibion a Merched
Mae Bethan, 18, Rhianna, 16 a Robert, 13, wedi bod yn rhan o鈥檙 broses faethu ers eu geni, oherwydd roedd eu rheini wedi dechrau maethu cyn cael plant. Ers hynny, mae maethu wedi鈥檌 wreiddio yn eu bywydau bob dydd. Er enghraifft, pan benderfynodd Bethan a Rhianna ysgrifennu am faethu fel rhan o鈥檜 haseiniadau Saesneg, roedd eu hathrawes mewn dagrau ac fe鈥檌 hysbrydolwyd hithau i fod yn ofalwr maeth hefyd.
Dros y blynyddoedd, mae bob un o鈥檙 tri wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau eu brodyr a鈥檜 chwiorydd maeth - drwy ddysgu i ganu mewn iaith arwyddion, bwydo babis newydd-anedig a bod yn gefnogol tu hwnt i bob agwedd o faethu eu rhieni. 听
Mae Bethan, Rhianna a Robert wedi helpu i gynhyrchu cylchgrawn Thrive i bobl ifanc sydd wedi鈥檜 maethu yng Nghymru, maent wedi bod yn aelodau egn茂ol o鈥檙 grwp maethwyr ifanc yn cefnogi meibion a merched gofalwyr maeth ac wedi helpu i greu canllaw maethu i blant sy鈥檔 cynnwys cerddi y maent wedi鈥檜 hysgrifennu am faethu.
Dywedodd eu henwebydd, Jil Jones, o wasanaeth maethu Sir y Fflint:
鈥淢ae Bethan, Robert a Rhianna yn s锚r. Rydym wedi eu gwylio yn datblygu i fod yn bobl ifanc ymwybodol, gofalgar, meddylgar, caredig a hyderus tu hwnt, a dylai eu rhieni fod yn falch iawn o鈥檙 ffordd y maent wedi eu magu gyda maethu fel ffordd o fyw."
听
鈥淢ae Beth, Rhi a Rob yn gynrychiolwyr maethu ardderchog a hefyd yn meddu ar garedigrwydd, anhunanoldeb ac aeddfedrwydd emosiynol. Maent yn angerddol am faethu a bob amser yn dangos hyn boed yn eu haseiniadau ysgol, ysgrifennu barddoniaeth neu鈥檔 cefnogi meibion a merched gofalwyr maeth eraill鈥 Jaqueline Wilson, Awdur Tracey Beaker.听
Beth, Rhi a Jaqueline Wilson
听
听
听
听
听
听
听
听
听
Cyfraniad Rhagorol gan Wobr Gofalwyr Maeth
Mae Lesley a Mark wedi bod yn ofalwyr maeth i Gyngor Sir y Fflint am bedair blynedd. Maent ar hyn o bryd yn gofalu am ferch ifanc, sydd angen cymorth drwy'r dydd a nos oherwydd ei hanableddau a鈥檌 hanghenion iechyd cymhleth. Mae Lesley a Mark wedi鈥檜 hyfforddi mewn amrywiaeth o ymyraethau meddygol, ac mae sawl achlysur wedi codi lle y gallai'r canlyniad fod wedi bod yn ddifrifol iawn pe na baent wedi gweithredu鈥檔 syth.听
Mae鈥檙 gofal 24 awr yn gwneud bywyd yn heriol iawn i Lesley a Mark 鈥 er enghraifft bu鈥檔 rhaid iddynt dreulio un Nadolig yn yr ysbyty, ac aros tan fis Chwefror i ddathlu鈥檙 Nadolig 芒'u teulu.听 Maent hefyd wedi bod yn cynnig cefnogaeth i deulu biolegol y ferch ifanc tra roedd hi鈥檔 brwydro am ei bywyd yn yr uned gofal dwys yn yr ysbyty.
Mae Lesley a Mark yn aros am addasiadau i鈥檞 cartref i gefnogi anghenion y plentyn ac i greu鈥檙 lle sydd ei angen ar gyfer offer meddygol arbenigol.
Mae gan Lesley a Mark deulu gwych i'w cefnogi, t卯m aml-asiantaeth arbennig o weithwyr proffesiynol o wasanaethau iechyd, addysg a chymdeithasol, yn ogystal 芒 chefnogaeth y t卯m yn eu hosbis plant lleol, sy'n hanfodol bwysig iddynt.听听 听
Dywedodd Debbie Sherlock, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Sir y Fflint a enwebodd Lesley a Mark:
鈥淢ae gofalu am blentyn sydd ag anghenion o鈥檙 fath yn dasg heriol yn gorfforol ac yn emosiynol, ond mae Lesley a Mark yn llwyddo i wneud hyn 芒 chariad, hwyl a thrugaredd."
Dywedodd Kevin Williams, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Maethu:
鈥淢ae鈥檙 gwobrau yn rhoi cyfle i ni daflu goleuni ar ein gofalwyr maeth arbennig a鈥檜 teuluoedd sy鈥檔 rhoi gymaint i ddarparu'r ansawdd bywyd gorau i鈥檙 plant a鈥檙 bobl ifanc sy鈥檔 dod i fyw 芒 hwy. 听 Rydym yn edmygu eu natur anhunanol a鈥檜 hymrwymiad, ac yn llongyfarch y teulu Hughes a鈥檙 teulu Goodwin ar eu gwobrau haeddiannol.鈥
Am fwy o wybodaeth ynghylch bod yn ofalwr maeth gyda鈥檙 Cyngor lleol, ymwelwch 芒 neu ffoniwch 01352 701965.