每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Iechyd a Lles Blynyddol Sir y Fflint

Published: 08/06/2023

Chwilio am Gefnogaeth? Angen cyngor am beth sydd ar gael yn lleol i helpu gyda chyflwr iechyd sydd gennych chi?

Dewch draw i ddigwyddiad Iechyd a Lles Sir y Fflint yn Neuadd Ddinesig Cei Connah i weld beth sydd i鈥檞 gynnig yn yr ardal.

Bydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint a鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith yn dod 芒 darparwyr gofal iechyd lleol sy鈥檔 cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau ynghyd yn Neuadd Ddinesig Cei Connah o 10am tan 2pm ddydd Iau 15 Mehefin 2023.听

Dywedodd Kim Acton, Ymgynghorydd ar Gyflogaeth i Bobl Anabl ac un o drefnwyr y digwyddiad:

鈥淒echreuodd y digwyddiad yn 2015 ac mae wedi rhoi cymorth i lawer o bobl leol. Gall y digwyddiad hwn ddenu hyd at 400 o bobl.听 Mae wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl yn Sir y Fflint sy'n byw 芒 chyflwr iechyd, neu sy'n gofalu am rywun 芒 chyflwr iechyd, ac mae'n dod 芒'r darparwyr at y bobl, gan roi cyfle am sgwrs wyneb yn wyneb.听听

Cefnogwyd y digwyddiad diwethaf (cyn covid) gan 33 o sefydliadau gofal iechyd a ddarparodd gyngor a chefnogaeth i dros 400 o drigolion lleol鈥.

Bydd yno ddigonedd o gyngor ymarferol ar gael. Ymhlith y materion iechyd o dan sylw fydd gofal iechyd meddwl, diabetes, nam ar y golwg a鈥檙 clyw, mudiadau gofalwyr, anableddau dysgu, cymorth i gyn-filwyr ac ati.听

Bydd cyfleoedd hefyd i drafod gwirfoddoli gyda mudiadau lleol.听听

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Kim yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07717 867211.