Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Corff Cymeradwyo (SAB) Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)
Published: 26/09/2018
Gwneir cais bod Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cymeradwyo sefydlu Corff Cymeradwyo SuDS (SAB) i ymgymryd 芒 swyddogaeth statudol newydd pan ddaw Atodlen 3 y Deddf Rheoli Llifogydd a Dwr Gwastraff i rym ar 7 Ionawr 2019.
Bydd yn ofynnol i鈥檙 SAB gynnal adolygiad technegol a chymeradwyo systemau rheoli dwr wyneb datblygiadau newydd er mwyn sicrhau cydymffurfiad 芒 safonau cenedlaethol gorfodol newydd.聽
Mae鈥檙 rhai y bydd y newid hwn yn effeithio arnynt yn cynnwys datblygwyr a鈥檜 dylunwyr, peirianwyr ymgynghorol, cynllunwyr awdurdodau lleol, peirianwyr priffyrdd a draenio, ymgynghorai statudol a鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 gyfrifol am reoli mannau gwyrdd.
Mae disgwyl hir wedi bod am Atodlen 3. Mae egwyddor y SuDS a chread y SAB wedi鈥檌 gefnogi gan Sir y Fflint fel Awdurdod Lleol Arweiniol ar y Perygl o Lifogydd.
Yng ngoleuni鈥檙 ffaith y disgwylir i hyn oll ddod聽 i rym mis Ionawr 2019, roedd y gorchmynion a鈥檙 rheoliadau angenrheidiol i fod yn barod ac wedi鈥檜 cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol erbyn mis Mehefin 2018.聽 Fodd bynnag nid yw hyn wedi digwydd eto a gofynnir i鈥檙 Cabinet gytuno bod llythyr yn cael ei anfon at yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol yn gofyn am estyniad i鈥檙 dyddiad gweithredu. Byddai鈥檙 estyniad hwn yn caniatau i Awdurdodau Lleol fod a鈥檙 adnoddau cywir yn eu llw i鈥檞 galluogi nhw i gynllunio ar gyfer, a gweithredu SAB yn effeithiol.
Gofynnir i鈥檙 Cabinet hefyd gytuno bod y llythyr hwn yn cael ei anfon at Awdurdodau Lleol eraill er mwyn annog cefnogaeth gyffredin dros yr estyniad amser hwn.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Gynllunio a Diogelu鈥檙 Cyhoedd:
鈥淏ydd y SAB yn gorff annibynnol o fewn y Cyngor.聽 Yn hanesyddol mae rheoli draeniad 聽dwr wyneb mewn datblygiadau newydd wedi digwydd drwy'r broses gynllunio. Fodd bynnag mae鈥檙 dull hwn wedi鈥檌 ystyried yn un problemus ers tro, gydag anawsterau鈥檔 codi o ganlyniad i聽 anghysondebau mewn safonau dylunio, ansawdd adeiladwaith a threfniadau cynnal a chadw.
鈥淣od draenio confensiynol yw cludo dwr i ffwrdd o ddatblygiad drwy systemau peipio sydd yn aml yn achosi llif gormodol mewn cyrsiau dwr yn is i lawr, gan waethygu problemau llifogydd mewn聽 mannau eraill.聽 Mae鈥檙 dull SuDS yn anelu at drin dwr glaw gyda thechnegau fel ymdreiddiad, a dulliau cadw dwr uwchben y ddaear sy鈥檔 dynwared rhediad oddi ar y safle yn ei gyflwr naturiol gan roi cyfle i gynnwys elfennau amwynder bioamrywiaeth a lleihau llygredd聽 yn y dyluniad.
鈥淐yn gweithredu hyn, byddwn yn rhedeg gweithdai ar gyfer datblygwyr a swyddogion ac aelodau er mwyn codi ymwybyddiaeth o鈥檙 newidiadau sydd ar ddod.鈥