Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cydnabyddiaeth ar gyfer Canolfan Cymorth Buan
Published: 18/09/2018
Roedd Cyngor Sir Y Fflint yn falch o dderbyn cydnabyddiaeth i鈥檙 Ganolfan Cymorth Buan yn y Gwobrau Partneriaethau (POP) yn ddiweddar.
Mae鈥檙 Gwobrau yn dathlu mentrau ar draws Gogledd Cymru sydd wedi arddangos gwaith partneriaeth rhagweithiol i ddatblygu atebion i gyflyrau sylfaenol sy鈥檔 cyfrannu at broblemau diogelwch y cyhoedd.听听
Daeth Canolfan Cymorth Buan Sir y Fflint yn ail yn y Gwobrau yn ddiweddar.听 听 Mae鈥檙 fenter arloesol hon yn darparu cefnogaeth mwy amserol a chydlynol i deuluoedd 芒 mwy o anghenion.听 听 Mae鈥檔 canolbwyntio鈥檔 helaeth ar sefydliadau鈥檔 cydweithio i gyrraedd plant a theuluoedd a fyddai鈥檔 elwa o gymorth buan.听 Y sefydliadau partner yw Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩wy鈥檔 falch bod y Ganolfan Cymorth Buan wedi鈥檌 chydnabod fel hyn.听 听Mae hwn wir yn ddull sydd ar flaen y gad o ran cydweithio gyda phartneriaid amlasiantaeth i gefnogi rhai o'n teuluoedd mwyaf bregus.
鈥淵 prif nod yw bod sefydliadau'n cydweithio i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu cael gwybodaeth a chyngor am gymorth cynnar perthnasol.听 Bydd y Ganolfan Cymorth Cynnar yn cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau ymdopi a mynd i鈥檙 afael 芒 phroblemau cyn iddynt waethygu.鈥
听