每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn ymrwymo ymhellach i dlodi bwyd yr haf hwn

Published: 09/08/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno 鈥淪HEP鈥 gan CLlLC am y tro cyntaf eleni.

Mae鈥檙 rhaglen cyfoethogi dros wyliau鈥檙 ysgol, 鈥淪HEP鈥 yn fenter gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sydd wedi cael ei gynnal ers 2016, ac yn cael ei gyflwyno yn Sir y Fflint eleni.Mae鈥檔 rhaglen ar gyfer ysgolion sy鈥檔 darparu prydau iach, addysg am fwyd a maeth, ymarfer corff a sesiynau cyfoethogi i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau鈥檙 haf.

鈥楤wyd a Hwyl鈥 yw enw鈥檙 brand a ddefnyddir i hyrwyddo鈥檙 clybiau i blant a theuluoedd.听

SHEP Saltney 01.jpg

Cynhelir y rhaglen bedair gwaith yr wythnos yn ystod tair wythnos gyntaf gwyliau'r haf, mewn dau safle - Ysgol Treffynnon yn Nhreffynnon ac Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn Saltney.Mae wedi ei anelu at ddisgyblion blwyddyn 6 o鈥檙 ysgolion bwydo cynradd a disgyblion blwyddyn 7 presennol yr holl ysgolion uwchradd.Mae 40 lle ar bob safle ac mae鈥檙 niferoedd wedi bod yn gadarnhaol dros ben.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae'n sefyllfa trist iawn yn yr 21 ganrif, bod plant yn llwglyd dros wyliau'r haf gan fod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd fforddio neu gael mynediad at fwyd sy'n darparu deiet iach.Yn ystod y tymor, gallent gymryd mantais o glybiau brecwast a phrydau ysgol am ddim, ond wrth i dlodi bwyd ddod yn broblem gynyddol yng Nghymru, mae cynlluniau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol - nid yn unig i ddarparu plant 芒 dau bryd iach y diwrnod, ond eu hannog i fod yn fwy egn茂ol, gwneud ffrindiau newydd ac ymgysylltu mwy gyda鈥檙 ysgol.

鈥淯nwaith i nifer o ddarparwyr bwyd glywed am y cynllun, buont yn darparu cynnyrch am ddim ar gyfer y cynllun - sy'n anhygoel! Ein nod ar gyfer y flwyddyn nesaf yw cynnal 鈥淏wyd a Hwyl鈥 mewn dau safle arall.鈥

Mae diwrnod arferol yn dechrau am 9am a gorffen am 1pm, ac yn cynnwys brecwast, gweithgareddau dysgu hwyliog, gweithgareddau corfforol a sesiynau chwaraeon ac yn gorffen gyda chinio.

Ategodd y Cynghorydd Roberts:

鈥淕wahoddir rhieni i ymuno 芒鈥檜 plant am ginio bob dydd Iau tra mae鈥檙 cynllun yn cael ei gynnal.Gall gynnwys yr holl deulu fel hyn, helpu i wella iechyd a lles rhieni, eu helpu i fodloni costau gwyliau ysgol a鈥檜 hannog i ddysgu sgiliau newydd.Gallwn hefyd cynnig cymorth i鈥檞 cyfeirio at wasanaethau eraill i鈥檞 cefnogi nhw.鈥

School Holiday Enrichment Programme 05.jpg