每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu ymwelwyr Japaneaidd 2018 鈥 Dathliad 30 Mlynedd

Published: 01/08/2018

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Cunningham, Dderbyniad Croeso i groesawu pedwar o bobl bwysig o Japan a phedwar myfyriwr cyfnewid i Sir y Fflint.

Roedd 40 o bobl yn bresennol, gan gynnwys Mr Hideo Sato 鈥 Maer Cyngor Tref Murata, Mr Katsumi Onuma 鈥 Cadeirydd Cyngor Tref Murata, Mt Hatsumi Ota 鈥 Is-gadeirydd Cyngor Tref Murata a Ms Yukari Uchigata Swyddog o Gyngor Tref Murata.

Mae鈥檙 rhaglen hon yn cynnig ystod eang o weithgareddau addysgol a diwylliannol i鈥檙 gwesteion o Japan gan gynnwys ymweliadau 芒 Llundain, Lerpwl, Rhydychen, Caer, Castell y Waun, Bae Colwyn, Castell Conwy, Llandudno a鈥檙 Wyddgrug.

Ar 么l rhan Cymru yn y rhaglen, bydd ein myfyrwyr o Sir y Fflint yn ymweld 芒 Rhaglawiaeth Miyagi yn Japan.

Y myfyrwyr Japaneaidd yw:

  • Chizu Kanuma
  • Satomi Takiguchi
  • Yurika Suzuki
  • Yuta Sakuranaka

Y myfyrwyr o Sir y Fflint a fydd yn teithio i Japan yw:

  • Alex Moutrie
  • Andrew Cowling
  • Chloe Stark
  • Grace Davies
  • Jessica Randell
  • Lucy Harrison

Dywedodd y Cyng Cunningham:

鈥淩wyf wrth fy modd yn cael croesawu ein hymwelwyr Japaneaidd a gobeithiaf y byddant yn cael profiad gwerthfawr a llawn mwynhad.听 Mae dathliad 30 mlwydd o gynllun Cyfnewid Ieuenctid Japan a Sir y Fflint yn achlysur nodedig ac yn dangos sut y gall dwy genedl gydweithio i gyflawni cymaint.听

鈥淢ae鈥檙 daith gyfnewid hon yn gyfle hyfryd i'r ddwy wlad ddysgu am ffyrdd o fyw a diwylliannau gwahanol. Aros gyda theuluoedd yw鈥檙 ffordd orau o ddysgu drwy ymdrwytho yn yr iaith a鈥檙 diwylliant mewn amgylchedd ofalgar gyda chyd-fyfyrwyr am gymorth.鈥澨

I fod yn gymwys i wneud cais am le ar raglen gyfnewid y flwyddyn nesaf, mae鈥檔 rhaid i fyfyrwyr fod rhwng 16 a 18 oed ar 1 Medi 2018, mewn addysg llawn amser yn Sir y Fflint neu mewn addysg llawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint.

I roi syniad i鈥檙 myfyrwyr a'u teuluoedd o beth yw鈥檙 daith gyfnewid, bydd noson gyflwyno yn cael ei chynnal nos Fercher 24 Hydref, am 6.30pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Bydd ffurflenni cais ar gyfer y rhaglen gyfnewid ar gael ar y noson, neu drwy gysylltu 芒 Karen Jones 07759295984 neu drwy anfon e-bost at karen.jones@flintshire.gov.uk.听

Ariennir y daith gyfnewid gan Ymddiriedolaeth Gyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint yn ogystal 芒 grantiau a rhoddion, gan gynnwys rhoddion gan Toyota UK yng Nglannau Dyfrdwy a Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr sy鈥檔 cefnogi rhaglenni addysgol Japaneaidd.听 听

JYE-1-15.jpg

Yn y llun gwelir myfyrwyr o Japan a Sir y Fflint gyda rhieni, trefnwyr, gwestai Japaneaidd, Ymddiriedolwyr a Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyngh. Paul Cunningham a Mrs Joan Cunningham