Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Newid Hinsawdd
Published: 17/02/2023
Pan fyddant yn cyfarfod ddydd Iau, 23 Chwefror, gofynnir i aelodau Cabinet Sir y Fflint nodi cynnydd Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor ers iddi gael ei mabwysiadu ym mis Chwefror 2022.
Them芒u allweddol y strategaeth yw:
- Adeiladau
- Symudedd a Chludiant
- Caffael
- Defnydd Tir听
- Ymddygiad
Adeiladau
Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein hadeiladau i wella eu heffeithlonrwydd ynni a鈥檜 hallyriadau carbon dilynol, uwchraddio LED, inswleiddio gwell ac uwchraddio BMS (System Rheoli Adeiladau) i wella鈥檙 ffordd o reoli ynni. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ar adeiladau i leihau鈥檙 angen am drydan o鈥檙 grid drwy osod paneli solar a thyrbinau gwynt ar ysgolion a鈥檔 hunedau diwydiannol.听
Gwelsom ostyngiad o 3% mewn gwres o鈥檔 hadeiladau, gostyngiad o 37% yn y defnydd o drydan yn ein hadeiladau a gostyngiad o 44% mewn trydan gan oleuadau stryd.
Mae gwaith ar y gweill i ddylunio a datblygu ysgol Di-garbon net gyntaf y Cyngor ac rydym yn dangos arweinyddiaeth eto drwy gynllun peilot ar gyfer Cartref Gofal Di-garbon Net, sef un o鈥檙 rhai cyntaf yng Nghymru.
Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn parhau i roi cyngor a chymorth ar ynni i eiddo domestig - i denantiaid y Cyngor ac aelwydydd preifat - i leihau鈥檙 perygl o dlodi tanwydd. Rydym hefyd yn gweithio gyda phreswylwyr a chontractwyr i osod mesurau lleihau ynni mewn cartrefi yn cynnwys inswleiddio, bylbiau golau LED, mesuryddion defnydd ynni, ynni solar a systemau gwresogi gwell megis pympiau gwres yr awyr.
鈥淥 ran ein strategaeth economaidd, mae cynlluniau lleoedd yn cael eu datblygu ar gyfer pob canol tref yn y sir dros y flwyddyn nesaf. Bydd y cynlluniau hyn yn ein helpu i ddeall yr anghenion adfywio yn ein cymunedau trefol ac yn ystyried lliniaru ac addasu carbon ac effeithiau amgylcheddol yn yr ardaloedd hyn.鈥
Symudedd a Chludiant
Yn 2021/22 gwelsom ostyngiad o 51% mewn teithio Busnes, gostyngiad o 11% mewn cymudo gan weithwyr a gostyngiad o 15% yn y Fflyd, o鈥檌 gymharu 芒 gwaelodlin 2018/19.
Mae鈥檙 Cyngor yn gweithio i ddeall effaith y trosglwyddo i gerbydau tanwydd amgen ac mae cynlluniau peilot yn cynnwys cerbydau ailgylchu trydan a 2 fws trydan wedi cael eu cyflwyno i鈥檙 gwasanaeth cyhoeddus.听听
Mae鈥檙 effaith fwyaf yn y maes hwn yn dod o鈥檔 Fflyd ein hunain. Mae gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu cynllun Trosglwyddo Cerbydau Trydan y Cyngor yn unol 芒 gosod pwyntiau gwefru trydan ac adnewyddu contract y Fflyd.听
Rydym wedi buddsoddi mewn isadeiledd gwefru cerbydau trydan i gefnogi鈥檙 trosglwyddo cyhoeddus i gerbydau trydan, ac mae鈥檙 cam cyntaf o osod 15 pwynt gwefru mynediad cyhoeddus mewn meysydd parcio cyhoeddus wedi鈥檌 gwblhau.听
Rydym yn parhau i ddatblygu ein rhwydwaith teithio llesol ar draws y sir drwy nodi bylchau yn y rhwydwaith a鈥檜 llenwi.听听
Caffael
Yn 2021/22, gwelsom gynnydd o 24% mewn allyriadau carbon o鈥檔 cadwyn gyflenwi. Mae鈥檙 cynnydd hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol 芒 chynnydd mewn gwariant drwy鈥檙 Cyngor cyfan yn 2021/22.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i ystyried sut y gallwn gynnwys ystyriaethau newid hinsawdd yn ein caffael mewn ffordd sy鈥檔 gymesur a pherthnasol ac sy鈥檔 dylanwadu ar y farchnad. Mae lleihau allyriadau o nwyddau a gwasanaethau rydym yn eu caffael yn rhan sylweddol o鈥檔 hymateb i鈥檙 hinsawdd.听
Mae鈥檙 Strategaeth Gaffael yn cael ei hadolygu er mwyn cyflwyno mesurau i bwysoli contractau sy鈥檔 ystyried effeithiau carbon y contract a chasglu鈥檙 data allyriadau carbon hwnnw.
Defnydd Tir
Mae鈥檙 Cyngor yn parhau i weithio i ddeall manteision presennol a phosibl ei asedau tir 鈥 mapio ardaloedd o dir sydd 芒鈥檙 potensial i amsugno carbon yn well, amddiffynfeydd llifogydd naturiol ac enillion net bioamrywiaeth. Bydd safleoedd allweddol yn cael eu dynodi eleni i gynnal astudiaethau dichonoldeb.
Rydym wedi lansio dwy fferm solar newydd gyda鈥檙 potensial i greu 3MW o drydan, gan ychwanegu at ein ffermydd solar presennol a chreu nwy gwastraff tirlenwi. Mewn partneriaeth 芒 Choleg Prifysgol Llundain, rydym hefyd wedi bod yn treialu ynni dwr ym Mharc Gwepra.听
Drwy fuddsoddi yn y technolegau hyn, gallwn symud Sir y Fflint a Chymru fel cenedl, oddi wrth ynni a gynhyrchir drwy losgi tanwydd ffosil. Mae cyfleoedd pellach yn bodoli i fuddsoddi mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr.
Mae mentrau eraill sy鈥檔 lleihau ein h么l troed carbon yn cynnwys:
- Anfon gwastraff trefol i Barc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy, sy鈥檔 gallu pweru mwy na 45,000 o gartrefi.听
- Mae gwastraff bwyd o ymyl y palmant yn mynd i dreuliwr anaerobig.
- Mae gwastraff gwyrdd yn cael ei droi鈥檔 gompost yn y cyfleuster ym Maes Glas.听听
- Mae gweithio gyda Refurbs ac elusennau eraill wedi gwella鈥檙 ffordd rydym yn trin gwastraff nwyddau gwyn ac wedi annog uwchgylchu eitemau mawr o gartrefi.听 听
- O ran rheoli bioamrywiaeth, mae gennym bellach rwydwaith o 109 ardal natur sy鈥檔 cynnwys trefn o dorri llai ar y glaswellt a hau blodau gwyllt.听
Ymddygiad
Er mwyn ymgorffori newid yn yr hinsawdd, mae gwaith wedi鈥檌 wneud i adolygu a diweddaru鈥檙 dull o wneud penderfyniadau allweddol yn y Cyngor. Er mwyn cefnogi hyn ymhellach, mae鈥檙 Bwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd wedi newid yn Bwyllgor Newid Hinsawdd ac mae Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi wedi鈥檌 sefydlu.听 听
Byddai鈥檙 gweithwyr yn ehangach yn elwa o gwblhau cyflwyniad mwy sylfaenol at newid yn yr hinsawdd, ac mae Cyngor Sir y Fflint yn arwain comisiwn sector cyhoeddus rhanbarthol i hwyluso datblygiad modiwl e-ddysgu ar gyfer hyn.听
Ychwanegodd y Cynghorydd Healey:
鈥淣i fydd lleihau allyriadau carbon y Cyngor ei hun 鈥 sef tua 2% o holl allyriadau鈥檙 sir 鈥 yn cyflawni鈥檙 targed o gael Cymru di-garbon net erbyn 2050, a鈥檙 disgwyliad yw ein bod yn defnyddio ein dylanwad fel Awdurdod Lleol i annog busnesau lleol, sefydliadau gwirfoddol, gwasanaethau cyhoeddus a鈥檔 preswylwyr i weithio tuag at leihau eu hallyriadau carbon.听
鈥淣i fydd newid allweddol yn digwydd heb ddigon o gapasiti. Fe wnaethom lwyddo i gael prentis gradd mewn 鈥榊nni Carbon Isel a Chynaliadwyedd鈥 drwy fenter Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn sgiliau gwyrdd. Mae鈥檙 lleoliad hwn mewn partneriaeth 芒 Phrifysgol Glyndwr Wrecsam ac mae eisoes yn profi i fod yn adnodd gwerthfawr i鈥檙 rhaglen.鈥
听
听