Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiadau Gwybodaeth i鈥檙 Cyhoedd am y Terfynau Cyflymder 20mya ym Mwcle
Published: 10/02/2023
Hoffai Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiadau gwybodaeth i鈥檙 cyhoedd ynglyn 芒鈥檙 terfynau cyflymder 20mya ym Mwcle, a gynhaliwyd rhwng 25 Ionawr a 9 Chwefror 2023.听
Mae deuddeg mis wedi mynd heibio bellach ers cyflwyno鈥檙 terfynau 20mya ym Mwcle Mynydd Isa, New Brighton, Drury, Burntwood, Bryn y Baal ac Alltami fel rhan o dreialon Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth newydd a ddaw i rym yng Nghymru ar 17 Medi 2023.听听
Roedd cyfle i 475 o bobl gymryd rhan mewn 15 o sesiynau, a bu 127 o bobl yn bresennol i gyd. Ymhob sesiwn cafodd pobl leol wybodaeth am ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer terfynau 20mya a sut y dylid cymhwyso鈥檙 ddeddfwriaeth i鈥檙 ffyrdd lleol, ac fe鈥檜 gwahoddwyd i s么n am eu profiadau o鈥檙 drefn newydd ym Mwcle.听听
Anfonwyd llythyr i 9,426 o aelwydydd yn y parthau 20mya tua diwedd y llynedd yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Cafwyd 2,712 o ymatebion.听 Bydd yr hyn a fynegwyd yn y sesiynau gwybodaeth yn cael ei ychwanegu i ganlyniadau鈥檙 arolwg ar-lein a bydd yn hwyluso adolygiad y Cyngor o ffyrdd lleol.听 Bydd y Cyngor yn dal ati i asesu ffyrdd lleol (os oes angen) yn unol 芒 meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer eithriadau.听 Rhennir y sylwadau o鈥檙 sesiynau gwybodaeth a chanlyniadau鈥檙 arolwg 芒 Llywodraeth Cymru hefyd i gynorthwyo 芒 chyflwyno鈥檙 terfyn 20my yn genedlaethol.听 听听
Cyhoeddir canlyniadau鈥檙 arolwg a鈥檙 adolygiad ar wefan y Cyngor ac yng Nghanolfan Bwcle yn Cysylltu cyn diwedd mis Mawrth 2023.
听