每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgyrch Hey Girls! yn dychwelyd am yr ail flwyddyn

Published: 09/02/2023

Hey Girls image 1 new.jpgBydd plant a phobl ifanc sy鈥檔 mynychu ysgolion Sir y Fflint yn gallu derbyn nwyddau mislif cynaliadwy am ddim wedi eu danfon yn uniongyrchol at garreg eu drws o 3 Chwefror 2023, diolch i鈥檙 bartneriaeth barhaus rhwng Cyngor Sir y Fflint a Hey Girls 鈥 cwmni nwyddau mislif yn y DU sydd wedi ennill sawl gwobr.

Datblygwyd y rhaglen gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo urddas mislif ledled Cymru.

Hyd yn hyn, mae Hey Girls wedi dosbarthu 1.7 miliwn o nwyddau mislif drwy鈥檙 fenter pecynnau i鈥檙 cartref. Yn ogystal 芒 Chyngor Sir y Fflint, mae cynghorau eraill ym Mhowys, Sir Ddinbych, Fife, Falkirk a Chaeredin a Choleg Inverness wedi dechrau defnyddio gwasanaeth pecynnau mislif cartref Hey Girls.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Christine Jones:

鈥淢ae hon yn fenter ardderchog a fu鈥檔 boblogaidd iawn y llynedd 鈥 y flwyddyn gyntaf i ni ei chynnal.听 Rwy鈥檔 llwyr gefnogi bod y nwyddau mislif hyn ar gael am ddim i鈥檔 dysgwyr ifanc. Mae鈥檙 mater sensitif hwn yn aml yn anodd ac yn bwnc 鈥渢abw鈥, a gall merched ifanc yn benodol deimlo stigma a theimlo鈥檔 fregus.听听

鈥淏ydd gallu archebu nwyddau am ddim ar-lein, sy鈥檔 cael eu danfon i鈥檞 cartref, yn sicrhau nad ydynt yn colli unrhyw amser yn yr ysgol, a gallant gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau.鈥

Nid oes cemegion yn nwyddau Hey Girls, maent wedi eu gwneud mewn modd cyfrifol ac o ddeunyddiau eco-ymwybodol, gan gynnwys poteli dwr wedi eu hailgylchu, cotwm organig a bambw cynaliadwy.听

Dywedodd Celia Hodson, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Hey Girls:

鈥淢ae nwyddau mislif yn hanfodol, ond maent yn ddrud. Gall cyllidebau tynn orfodi pobl i flaenoriaethu prynu pethau eraill, gan eu gadael heb gynnyrch cywir ar gyfer eu mislif, heb ddigon o gynnyrch, neu heb unrhyw gynnyrch o gwbl.

鈥淢ae cynyddu鈥檙 gallu i gael gafael ar nwyddau mislif yn bwysig iawn. Gall nwyddau am ddim gadw pobl yn yr ysgol, gwella鈥檙 gallu i ganolbwyntio, annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, a hybu iechyd da. Maent yn atal pobl rhag gorfod gwneud penderfyniadau sy鈥檔 eu dad-ddynoli 鈥 drwy wisgo鈥檙 cynnyrch anghywir, neu gynnyrch o safon is, neu wisgo cynnyrch am fwy o amser nag sy鈥檔 ddiogel neu l芒n.听

鈥淵n Hey Girls rydym yn credu bod cael gafael ar nwyddau mislif safonol yn hawl, nid braint. Mae nwyddau am ddim yn cynorthwyo i ddod 芒 thlodi mislif i ben, ac maent hefyd yn hyrwyddo urddas mislif.鈥

Mae Hey Girls yn fenter gymdeithasol nwyddau mislif, sydd wedi ennill sawl gwobr. Am bob cynnyrch mae鈥檔 ei werthu, mae鈥檔 cyfrannu cynnyrch cyfatebol i rywun mewn angen. Ers sefydlu鈥檙 cwmni buddiannau cymunedol yn 2018, mae Hey Girls wedi rhoddi dros 30 miliwn o nwyddau mislif. Ei nod yw cynorthwyo i ddileu tlodi mislif, galluogi gwell mynediad at nwyddau mislif safonol i bawb a chael gwared 芒鈥檙 stigma a鈥檙 mythau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 mislif.

Os ydych chi rhwng 8 a 18 oed ac yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint, ewch i i wneud cais am nwyddau mislif am ddim.