Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cnoi cil ar eich bwyd!
Published: 12/12/2022
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i chi edrych eto ar y bwyd rydych yn ei brynu a chnoi cil ar hyn dros dymor y gwyliau.
Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2022 fe ailgylchwyd bron i 4,700 tunnell o wastraff bwyd gennym yn Sir y Fflint. Caiff y gwastraff bwyd hwn ei gludo i gyfleuster treulio anaerobig yn Rhuallt lle caiff ei droi鈥檔 fio-nwy a bio-wrtaith. Mae hyn yn cynhyrchu trydan i roi pwer i鈥檔 cartrefi a gwrteithiau i ffermwyr er mwyn tyfu ein bwyd. I ddarganfod mwy am y broses gwyliwch .
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes:听
鈥淢ae鈥檔 wych ein bod yn ailgylchu gwastraff bwyd ond rydym yn gwybod fod yna lawer o wastraff bwyd yn cael ei roi yn y bin du o hyd. Mae tua chwarter y gwastraff a gaiff ei roi yn y bin du yn fwyd a allai gael ei anfon i鈥檞 ailgylchu; fodd bynnag, rydym yn gwybod fod y rhan fwyaf o鈥檙 bwyd hwn yn parhau i fod mewn cyflwr bwytadwy!
鈥淥 ystyried yr effaith y gall tyfu, cynhyrchu, cludo a gwaredu bwyd ei gael ar yr amgylchedd, mae angen i ni weithredu ac nid oes amser gwell i ddechrau ar hynny nag adeg y Nadolig pan rydym yn gweld cynnydd mewn ailgylchu a gwastraff bob blwyddyn.鈥
I helpu gyda chynllunio a rheoli鈥檙 cyfanswm o fwyd rydym yn ei brynu a鈥檌 fwyta mae鈥檙 ymgyrch 鈥楬offi Bwyd Cas谩u Gwastraff鈥 wedi darparu cyngor ar gamau syml y gallwn ni i gyd eu defnyddio i leihau鈥檙 cyfanswm o fwyd rydym yn ei wastraffu. Gallwch weld canllaw ar gynllunio eich trefn wythnosol o ran bwyd ar eu gwefan: 听补听. 听
Os ydych yn canfod fod gennych chi ormod o fwyd, ystyriwch ei roi fel y gall eraill yn y gymuned wneud defnydd ohono. Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond bwyd heb ei ddefnyddio/heb ei agor y mae modd ei roi i鈥檙 cyfleusterau hyn.
Os oes gennych chi wastraff bwyd ar 么l fe allwch ystyried ei gompostio i鈥檞 ddefnyddio yn 么l yn eich gardd fel cyflyrwr pridd. I gael canllaw syml ar sut i wneud hyn edrychwch ar .
Mae llawer ohonoch yn defnyddio鈥檙 gwasanaeth casglu ymyl palmant ar gyfer gwastraff bwyd ond os nad ydych yn gwneud hynny dechreuwch ei ddefnyddio!听 听i ddarganfod lle y gallwch wneud cais am gynwysyddion bwyd a bagiau.
Mae yna gynifer o fanteision o ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol sef:
鈥 Mae鈥檔 ddull mwy amgylcheddol gyfeillgar o waredu gwastraff;
鈥 Mae鈥檔 ein helpu ni i gyflawni ein targedau ailgylchu cenedlaethol;
鈥 Mae鈥檔 lleihau arogleuon o wastraff bwyd yn pydru am bythefnos yn y bin du ac mae鈥檔 lleihau鈥檙 perygl o bryfetach.
Mae pob darn o fwyd a wastraffir yn cael effaith ar yr amgylchedd - cludiant, tanwydd, dwr, ynni - mae hyn i gyd yn adio.听 A thra bod gan lywodraethau a busnesau ran bwysig i鈥檞 chwarae, caiff 70% o鈥檙 bwyd a gaiff ei wastraffu yn y DU ei wastraffu gennym ni yn ein cartrefi ein hunain. Caiff chwarter o hyn, 1.1 miliwn tunnell, ei wastraffu bob blwyddyn yn syml gan ein bod yn paratoi, coginio neu鈥檔 gweini gormod.
Gan ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda ac iach i bawb oddi wrth y t卯m ailgylchu.
听
听