每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Growth Track 360 yn croesawu penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio鈥檙 Rheilffyrdd

Published: 08/12/2022

Mae Growth Track 360 yn croesawu penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio鈥檙 Rheilffyrdd i ganiat谩u mynediad ar y cyd i Linell y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston i Drafnidiaeth Cymru a Great British Railfreight (GBRf).听 Bydd y penderfyniad yn galluogi cynnydd sylweddol mewn gwasanaethau teithwyr gan Drafnidiaeth Cymru, gan symud o wasanaethau bob awr i bob hanner awr y rhan fwyaf o鈥檙 dydd, ac amddiffyn gwasanaethau nwyddau gan GBRf i Hanson Cement.

Meddai鈥檙 Cyng. Louise Gittins, Cadeirydd Growth Track 360:

鈥淢ae penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio鈥檙 Rheilffyrdd yn un da. Mae gwasanaethau nwyddau ar Linell y Gororau yn golygu bod llai o lor茂au nwyddau trwm ar y ffordd, gan leihau llygredd, tagfeydd traffig ac allyriadau carbon. Bydd mwy o wasanaethau i deithwyr gan Drafnidiaeth Cymru yn cynyddu gwerth Llinell y Gororau i bobl leol i gael mynediad at waith, gwasanaethau a chyfleusterau hamdden a bydd yn rhoi hwb i鈥檙 economi leol.

"Mae鈥檙 penderfyniad yn cynrychioli cyfaddawd rhwng gweithredwyr gwasanaethau nwyddau a theithwyr, a dylid eu llongyfarch amdano.听 Gallwn yn awr symud ymlaen i ddechrau defnyddio mwy ar y llinell a gwella鈥檙 cysylltiad rhwng Wrecsam a Lerpwl a llawer o鈥檙 parthau cyflogaeth a phreswyl arwyddocaol ar hyd y llinell.鈥

Meddai鈥檙 Cyng. Ian Roberts,听Arweinydd y Cyngor ac听Is-Gadeirydd Growth Track 360:听

鈥淵 brif neges o benderfyniad Swyddfa Rheoleiddio鈥檙 Rheilffyrdd yw bod yn rhaid cael buddsoddiad ar unwaith yn Llinell y Gororau o Wrecsam i Bidston, gan ddechrau 芒 chefnogaeth Llywodraeth y DU i gais Cronfa Ffyniant Bro Sir y Fflint, uwchraddio Cilffyrdd Nwyddau Hanson Cement a Gorsaf newydd i Lannau Dyfrdwy i wasanaethu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

"Cafodd cais Sir y Fflint i鈥檙 Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Llinell y Gororau ei baratoi gan Drafnidiaeth Cymru. Fe鈥檌 cefnogir gan Hanson Cement ac Aelodau Seneddol ardal Merswy a鈥檙 Ddyfrdwy. Bydd yn datgloi potensial ased rheilffordd sydd wedi ei esgeuluso ers talwm i deithwyr a nwyddau, gan alluogi twf economaidd cynaliadwy.

"Gan fod y penderfyniad hwn wedi鈥檌 wneud, rhaid i Drafnidiaeth Cymru achub ar y cyfle a chyflwyno鈥檙 gwasanaeth newydd i deithwyr cyn gynted 芒 phosibl.鈥

Meddai Cynrychiolydd Busnes o Growth Track 360, Ashley Rogers, Prif Weithredwr Cyngor Busnes Merswy a鈥檙 Ddyfrdwy Gogledd Cymru:

鈥淏ydd y bwlch mewn gwasanaethau teithwyr fel bod nwyddau鈥檔 gallu cael eu symud yn digwydd ar adegau brig traddodiadol, sy鈥檔 anfantais hirdymor posibl i wasanaethau teithwyr. Mae gan y cwmni nwyddau ddyheadau hefyd i gynyddu gwasanaethau nwyddau ymhellach i leihau cludo nwyddau trwm ar y ffyrdd ac allyriadau carbon. Mae penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio鈥檙 Rheilffyrdd yn gyfaddawd tymor byr, i ddisgwyl am fuddsoddiad sydd wir ei angen i gynyddu capasiti ar y llinell.

"Mae angen uwchraddio cilffyrdd nwyddau Hanson Cement ar frys, fel y cynigir yng nghais ddiweddar Sir y Fflint i鈥檙 Gronfa Ffyniant Bro. Bydd hyn yn galluogi Trafnidiaeth Cymru ddarparu gwasanaethau bob hanner awr drwy gydol y dydd ac o bosibl, cynyddu鈥檙 gwasanaeth i ddwy dr锚n yr awr yn y dyfodol os bydd niferoedd yn cynyddu, a galluogi mwy o wasanaethau nwyddau yr un pryd.

"Penderfyniad Swyddfa Rheoleiddio鈥檙 Rheilffyrdd yw鈥檙 cam cyntaf ar y daith o fuddsoddi a gwella gwasanaeth i wneud gwell defnydd o鈥檙 ased rheilffordd gwych hwn sy鈥檔 cael ei dan-ddefnyddio i鈥檔 rhanbarth.鈥