Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwirfoddolwyr Vimto y Fflint
Published: 29/11/2022
Fe ddaeth Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint, gwirfoddolwyr corfforaethol Nichols plc a Chyngor Tref y Fflint ynghyd yr wythnos ddiwethaf i dacluso鈥檙 coetiroedd, llwybrau troed a Llwybr Arfordir Cymru ger Castell y Fflint.听
Cafodd coed marw a choed peryglus eu clirio a phlannwyd coed cyll, yw a choed castan ifanc yn eu lle ac agorwyd y golygfeydd ar draws yr aber wrth i brysgwydd cwyros gael eu tocio i sicrhau y gall pawb fwynhau鈥檙 golygfeydd ysblennydd o amgylch Castell y Fflint.
Ychwanegwyd tair derwen goch i amrywiaeth y coetir i goff谩u鈥檙 diwrnod a oedd yn llwyddiant mawr er gwaetha鈥檙 rhybuddion melyn o ran y tywydd. Wedi eu noddi gan Gyngor Tref y Fflint, darparodd y Ceidwaid Arfordirol offer, lloches a choed a daeth Vimto 芒 17 o wirfoddolwyr yma gan roi dros 85 awr o waith a oedd yn gyfystyr 芒 bron i 12 diwrnod o amser Ceidwad.听
Cafodd pawb ginio o bysgod a sglodion, wedi ei ddarparu gan y siop sglodion leol.听 Hefyd roedd yna gacen pen-blwydd a chafodd ei olchi i lawr gyda Vimto diderfyn, a oedd yn rhoi digon o egni i bawb yn barod am brynhawn prysur yn creu pentyrrau cynefinoedd bywyd gwyllt a gwrychoedd mawr ar gyfer darparu lloches i ffwng, mamaliaid ac infertebratau yn y gaeaf.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden Cyngor Sir y Fflint:
鈥淗offwn ddiolch i bawb a fu鈥檔 rhan o ddiwrnod y gwirfoddolwyr sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd yn y Fflint. Roeddwn yn falch o glywed fod pobl wedi cael amser da, er gwaetha鈥檙 tywydd.听 Darparwyd lloches gan goed a choetiroedd blaendraeth y Fflint a鈥檙 cysgod a gynigwyd gan waliau Castell y Fflint, a chafwyd digon o ddiodydd poeth, ac fe sicrhaodd y criw gwych o d卯m marchnata Vimto fod y diwrnod yn un cynhyrchiol a llawn hwyl.鈥
Canmolodd y Cyfarwyddwr Marchnata, Emma Hunt, y Ceidwaid Arfordirol am y diwrnod a dywedodd:
鈥淵n Nichols rydym i gyd yn cael ein hannog i gymryd rhan yn ein menter Diwrnod i Wneud Gwahaniaeth, sy鈥檔 gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol. Mae gan y Fflint flaendraeth mor wych ac rydym yn falch o wneud ein rhan ar gyfer bywyd gwyllt, pobl a chymuned y Fflint a鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 defnyddio Llwybr Arfordir Cymru.鈥
Dywedodd Cynghorydd Sir y Fflint a Maer y Fflint, Michelle Perfect:
鈥淎nhygoel, canlyniad gwych a hynny mewn tywydd eithaf gwael.听 Fe fydd y coetir a鈥檙 bywyd gwyllt yn amlwg yn elwa o鈥檙 holl waith. Hoffwn ddiolch i鈥檙 Ceidwaid Arfordirol a th卯m Vimto am ddod allan a dal ati hyd yn oed ar 么l y pysgod a鈥檙 sglodion a鈥檙 gacen!鈥
Dylai unrhyw grwpiau corfforaethol sydd eisiau diwrnod t卯m gysylltu 芒鈥檙 Ceidwaid ar 07711438127 neu countryside@flintshire.gov.uk
听