Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu llwyddiant yr iaith Gymraeg
Published: 05/07/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto wedi dathlu llwyddiant athrawon a
chymhorthwyr ystafell ddosbarth sydd wedi cwblhau cyrsiau Cymraeg ail iaith yn
ystod y flwyddyn.
Mewn Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty鈥檙 Beaufort Park, roedd athrawon a
chymhorthwyr ystafell ddosbarth o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ar draws y
Sir yn derbyn gwobrau a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y
Cynghorydd Ian Roberts, a鈥檙 Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid dros dro, Claire
Homard.
Mae鈥檙 hyfforddiant wedi鈥檌 roi gan D卯m Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint ac fe
wnaeth dros 80 o athrawon a chymhorthwyr addysgu gyfranogi. Mae鈥檙 hyfforddiant
i aelodau o staff ar gyrsiau Sabothol wedi鈥檌 roi gan Ganolfan Bedwyr, Prifysgol
Bangor.
Nod y t卯m yw codi safonau鈥檙 Gymraeg mewn ysgolion cynradd yn Sir y Fflint ac i
gyfrannu at Gynllun Cymraeg mewn Addysg Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
鈥淢ae鈥檔 wych gweld cymaint o鈥檔 gweithwyr yn awyddus i wella eu sgiliau Iaith
Gymraeg. Bydd hyn o fudd mawr i atgyfnerthu ymrwymiad cryf Sir y Fflint ir
Gymraeg. Trwy ein Strategaeth Hyrwyddo鈥檙 Gymraeg a gymeradwywyd yn ddiweddar,
a鈥檔 Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, rydym yn cefnogi pobl o bob oed i
wella eu sgiliau iaith Gymraeg a rhoi鈥檙 hyder iddynt ddefnyddio鈥檙 iaith yn eu
bywyd bob dydd.
鈥淢ae hefyd yn anfon neges glir, yn fewnol ac yn allanol, bod yr iaith Gymraeg
yn cael ei gwerthfawrogi ac yn ased o fewn cyflogaeth.鈥
Dywedodd Rhian Roberts, Rheolwr T卯m Ymgynghorol y Gymraeg yn Sir y Fflint:
鈥淢ae hyfforddi staff wedi bod yn uchel ar raglen y t卯m ers sawl blwyddyn ac
mae鈥檔 parhau鈥檔 elfen hanfodol o鈥檔 gwaith. Mae鈥檔 bwysig iawn fod gan ein
gweithlu鈥檙 sgiliau iaith angenrheidiol i ddarparu gwaith priodol i oed a digon
heriol i ddisgyblion. Byddwn yn parhau i weithio ar y flaenoriaeth hon i
sicrhau y gall Sir y Fflint gwrdd 芒 heriau targed Llywodraeth Cymru i greu
miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.鈥