每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Published: 17/05/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried ymateb i Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol pan mae鈥檔 cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis. Mae鈥檙 galw am iechyd a gofal cymdeithasol wedi cynyddu鈥檔 ddramatig dros yr 20 mlynedd diwethaf, gydag anghenion newidiol, disgwyliadau cynyddol a ffurfiau newydd o driniaeth a gofal yn ymestyn y ddarpariaeth. Mae hyn wedi creu her sylweddol i wasanaethau cyhoeddus a chafodd yr Adolygiad Seneddol hwn o Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i nodi sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ragweld a delio gyda鈥檙 galwadau newydd a wynebir ganddynt. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2018 gyda deng awgrym i Lywodraeth Cymru, sef: 1. Un system ddi-dor i Gymru 鈥 gofal wedi鈥檌 drefnu o amgylch yr unigolyn a theulu鈥檙 unigolyn, mor agos 芒 phosib at y cartref 2. Y Nod Pedwarplyg i Bawb 鈥 ategu鈥檙 weledigaeth ar gyfer 鈥渦n System鈥 gyda phedwar nod: cydweithio i gyflawni canlyniadau clir, gwell iechyd a llesiant, gweithlu sy鈥檔 derbyn gofal a gwerth gwell am arian. 3. Modelau gofal di-dor newydd a dewr 鈥 egwyddorion cenedlaethol, darparu鈥檔 lleol 4. Rhoi鈥檙 rheolaeth yn nwylo鈥檙 bobl - cryfhau ymgysylltiad unigolion a鈥檙 gymuned 5. Lle gwych i weithio ynddo 鈥 cysoni鈥檙 gweithlu ar frys 6. System Iechyd a Gofal sy鈥檔 dysgu trwy鈥檙 amser 7. Defnyddio arloesed, a chyflymu datblygiadau mewn technoleg a seilwaith 8. Cysoni dyluniad y system i gyflawni canlyniadau 鈥 dylunio鈥檙 system yn well i sicrhau cynnydd cyflymach 9. Y gallu i drawsnewid, arweinyddiaeth ddeinamig, cydweithredu digynsail - cynyddu鈥檙 gallu i lywio trawsnewid ar lefel genedlaethol 10. Atebolrwydd, cynnydd a chyflymder 鈥 cyhoeddi cynnydd yn erbyn y weledigaeth Daeth i鈥檙 casgliad bod ar Gymru angen system iechyd a gofal gwahanol, ac na ddylai unrhyw un danamcanu maint yr her sydd o鈥檔 blaenau. Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 鈥淩ydym yn croesawu鈥檙 Adolygiad Seneddol yma ar gefnogaeth y mae wedii ddarparu o ran ein gweledigaeth a chyfeiriad strategol. Mae鈥檙 argymhellion yn yr Adolygiad yn cadarnhau ein cyfeiriad ac mae wedi rhoi hyder o鈥檙 newydd i ni o ran ein cynlluniau at y dyfodol鈥. Mae Cyngor Sir y Fflint yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC), ac fel aelod ohono, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn iddo gyflwyno ymateb yn gosod blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth ac i nodi cryfderau o ran bwrw ymlaen 芒 modelau di-dor o iechyd, gofal a lles. Meddai鈥檙 Cynghorydd Jones: 鈥淓r mwyn paratoi鈥檙 ymateb hwn cynhaliodd BPRhGC gyfres o weithdai cynllunio, ac er bod rhai enghreifftiau ardderchog o arfer da wedi cael eu nodi, gan gynnwys yr estyniad arfaethedig ar Gartref Preswyl Marleyfield House yn Sir y Fflint, byddem yn cytuno gydar Adolygiad Seneddol bod cyflymder y newid yn araf. 鈥淓r mwyn cyflymu鈥檙 broses, mae BPRhGC wedi cyflwyno awgrymiadau rydym yn gobeithio eu trafod gyda鈥檙 Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol pan fydd yn bresennol yng nghyfarfod BPRHGC yn fuan mis Gorffennaf.鈥