Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Clwb Menter Treffynnon - 9 mai
Published: 08/05/2018
Wedi llwyddiant Clwb Menter Shotton, mae Cymunedau am Waith a Mwy rwan yn
cyflwyno Clwb Menter newydd yn Sir y Fflint wedi ei leoli yn Nhreffynnon.
Mae鈥檙 Clwb Menter gwreiddiol wedi helpu llawer o bobl leol a sefydlodd eu
busnes ers ei sefydlu bum mlynedd yn 么l. Mae鈥檙 grwp yn cynghori pobl drwy ei
weithdai ar nifer o fudd-daliadau a all eu helpu nhw wrth iddynt gychwyn
busnes, gall hefyd fod o gymorth gyda mentor perthnasol i arwain a datblygu eu
busnes neu eu syniad busnes. Mae鈥檙 clwb yn rhad ac am ddim ac mae鈥檔 gwahodd
siaradwyr a chynghorwyr o asiantaethau eraill. Maer sesiynau bob amser yn
gyfeillgar, yn llawn gwybodaeth ac yn llawn egni, cydweithrediad, ysbrydoliaeth
a syniadau! Mae amrywiaeth o bobl yn mynychu - yn amrywio o fusnesau sefydledig
i frandio syniadau newydd 鈥 pob un yn chwilio am y cam nesaf.
Cynhelir y rhaglen newydd, sy鈥檔 cychwyn ar 9 Mai rhwng 1:30-3:30pm, yn Kim
Inspire, The Hub, Park Lane, Treffynnon, CH8 7UR. Bydd yn canolbwyntio ar
gefnogaeth a chyfleoedd rhwydweithio a bydd y gweithdai鈥檔 cael eu cyflwyno gan
Sandra Donoghue 鈥淢ingle for Business鈥, y mae ei phrofiad o weithio gyda grwp
Shortton wedi bod yn llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint:
鈥淢ae Clwb Menter Shotton wedi bod yn llwyddiant mawr dros y blynyddoedd ac
maen gam positif ymlaen i sefydlu Clwb Menter newydd yn Nhreffynnon. Byddwn
yn annog unrhyw weithiwr proffesiynol ac entrepreneuriaid y byd busnes i alw
heibio鈥檙 sesiwn er mwyn darganfod mwy 鈥 mae鈥檔 cynnig rhywbeth i bawb, os ydych
chi ond yn cychwyn arni neu yn edrych am gymorth er mwyn cymryd y cam nesaf.
Os hoffech gofrestru, cysylltwch 芒 Beverly Moseley ar
beverly.moseley@flintshire.gov.uk neu 01244 846090.