每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen ESGYN yn helpu pobl ar eu ffordd i yrfa mewn lletygarwch

Published: 21/03/2018

Yn dilyn rhaglen hyfforddi arloesol or enw Camu i mewn i Letygarwch, cafodd gyfranogwyr eu tystysgrifau mewn dathliad ym Mrychdyn. Cynhaliwyd y cwrs, wedi鈥檌 ariannu gan ESGYN sy鈥檔 cefnogi pobl ddi-waith hirdymor yn 么l i waith, am bum niwrnod dros gyfnod o bythefnos yn Ystafell Busnes Regus ym Mharc Manwerthu Brychdyn. Yn ystod eu hamser ar y cwrs dysgodd y 12 unigolion o Sir y Fflint am ddiogelwch bwyd, gwasanaethau i gwsmeriaid, cymorth cyntaf brys ac iechyd a diogelwch. Derbyniwyd hyfforddiant hefyd ar sut i ddefnyddio til. Bydd y cwrs achrededig yn eu helpu i ganfod cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd mentor ESGYN, Debbie Barker yn gweithio gyda鈥檙 unigolion i ddod o hyd i leoliadau gwaith posib a chyflogaeth iddyn nhw gan gynnwys gwaith ym Mharc Manwerthu Brychdyn. Roedd Jake Doyle a Jess Randall, sydd iw gweld yn dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr gyda thiwtor y cwrs Mark Hughes o Groundwork Gogledd Cymru, yn falch o gael mynychu鈥檙 cwrs. Meddai Jake o鈥檙 Wyddgrug: 鈥淢ae wedi bod yn hynod o ddefnyddiol ac yn llawer o hwyl hefyd. Dwi鈥檔 teimlo fy mod i wedi dysgu llawer ac wedi ennill cymwysterau gydar gobaith y bydd yn fy helpu i ddod o hyd i waith.鈥 Dywedodd Jess o Cei Connah: 鈥淢ae gwneud y cwrs heb os wedi fy ngwneud yn fwy o gaffaeliad i gyflogwyr. Mae鈥檙 cwrs cymorth cyntaf yn ddefnyddiol mewn sefyllfa gwaith, ac yn fam i dri o blant gallaf ddefnyddio鈥檙 sgiliau adref hefyd. Dwi hefyd yn gwneud cwrs cyfrifyddiaeth SAGE trwy鈥檙 rhaglen ESGYN a gellir ei wneud ar-lein tra bod y plant yn yr ysgol syn ddefnyddiol iawn i mi. Dwi鈥檔 edrych ymlaen yn fawr i ddod o hyd i waith diolch i鈥檙 cyrsiau ESGYN.鈥 Ni allai Mark Hughes yr hyfforddwr ganmol y grwp ddigon: 鈥淢aent wedi bod yn anhygoel, dwi wedi mwynhau gweithio gyda nhw鈥檔 fawr ac maent i gyd yn cymryd diddordeb go iawn ac yn awyddus i ddysgu. Mae鈥檔 deimlad gwych gallu eu helpu i gyflogaeth 鈥 dwi wedi gwylio nhw鈥檔 magu hyder ac wedi gweld pob un yn datblygu mewn sawl ffordd wahanol.鈥 Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae gallu rhedeg rhaglenni hyfforddiant fel hyn gyda chefnogaeth ein partneriaid yn hanfodol ar gyfer ein heconomi leol. Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl leol fel eu bod yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal. Rwyn falch iawn bod y cwrs hwn wedi bod yn llwyddiannus ac rwyn dymunor gorau i bawb ar gyfer y dyfodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Debbie Barker ar 01244 846090 neu debbie.barker@每日大瓜.gov.uk.