每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Aura

Published: 21/03/2018

Cytunodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar Gynllun Busnes Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ar gyfer 2018/19 a chytunwyd i ryddhau cyfanswm o 拢3.773 miliwn o gyllid refeniw i Hamdden a Llyfrgelloedd Aura (Aura) ar gyfer 2018/19. Dywedodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr Aura a gyflwynodd yr adroddiad i鈥檙 Cabinet: 鈥淢ae Aura mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, wedi gwneud cynnydd cadarnhaol iawn yn ei flwyddyn gyntaf o weithredu. Rydym wedi cynnal gwasanaethau a swyddi ac wedi gwneud arbediad effeithlonrwydd o 10% yn y gyllideb yn 2017/18 (effaith blwyddyn gyfan o 拢0.574 miliwn). 鈥淵n ogystal, bydd dau ddatblygiad cyfalaf o bwys gwerth 拢2.4 miliwn yn cael eu cwblhau eleni, ac mae鈥檙 ddau yn cael eu hariannu gan Aura heb gost i鈥檙 Cyngor na thrigolion Sir y Fflint.鈥 Mae鈥檙 datblygiadau cyffrous hyn yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug a Phafiliwn Jade Jones yn y Fflint. Mae cyfanswm o 拢1.447 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug, i ddyblu maint y cyfleuster ffitrwydd llawr gwaelod presennol ac i adeiladu stiwdio llawr cyntaf ychwanegol. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ionawr, ac mae disgwyl i鈥檙 cyfleuster newydd agor yn ail hanner mis Mai eleni. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檙 gwelliannau ym Mhafiliwn Jade Jones yn cynnwys estyniad i鈥檙 ystafell ffitrwydd bresennol drwy gael gwared ar y swyddfeydd presennol i greu ystafell ffitrwydd 芒 55 gorsaf ac adnewyddu ystafelloedd newid gwlyb presennol y pwll nofio gyda chynnydd yn cael ei ddarparu i鈥檙 man gwylio ar ymyl y pwll. Amcangyfrifir fod cost y cynllun hwn ychydig o dan 拢1 miliwn. 鈥淢ae cynlluniau ar gyfer y dyfodol i leoliadau eraill hefyd yn cael eu datblygu.鈥 Mae Aura wedi bod yn gweithredu ers mis Medir llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer o gamau allweddol y cynllun busnes gwreiddiol wedi cael eu cyflawni gan gynnwys ailstrwythuro staffio mewn llyfrgelloedd a datblygu chwaraeon ac ymestyn y gwasanaethau taliadau debyd uniongyrchol.