每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cam Cyntaf Rhwydwaith Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Sir y Fflint

Published: 28/02/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi dechrau i鈥檙 weledigaeth trafnidiaeth strategol gyda gwaith adeiladu seilwaith llwybr beiciau a safle bws ar Barth 3, Parth Menter Glannau Dyfrdwy diolch i gyllid grant gan Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yn cynnwys llwybr beiciau i bob busnes ar y parth, seilwaith safle bws newydd yn cynnwys cabanau aros bysiau newydd, rheoli parcio ar y stryd a system un ffordd. Mae鈥檙 gwaith i fod i ddechrau dydd Llun, 5 Mawrth a bydd yn para am 12 wythnos. Bydd mynediad i eiddo a busnesau unigol ar gael, er maen bosib y bydd peth oedi pan fydd gwaith yn cael ei wneud. Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檔 contractwr Roadway Civil Engineerig Ltd yn ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi, a byddwn yn gwneud y gwaith cyn gynted ag y gallwn. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 鈥淩ydw i鈥檔 falch iawn ein bod yn bwrw 鈥榤laen gyda gweledigaeth trafnidiaeth ar gyfer Sir y Fflint a Gogledd Cymru, i gysylltu pobl gyda鈥檙 ardal waith pwysig hon. Dyma un o sawl cynllun cyffrous sydd ar y gweill a fydd yn integreiddio pob dull trafnidiaeth i annog gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar. Mae cam allweddol hwn y cynllun yn dangos ymrwymiad y gweinyddwr presennol i鈥檙 rhwydwaith trafnidiaeth gan gydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Wrth symud ymlaen, byddwn yn chwilio am gyfleoedd o bob ardal iw cysylltu 芒 datrysiadau trafnidiaeth gynaliadwy.鈥