Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynigion Cludiant Cyngor Sir y Fflint
Published: 15/02/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno chwe chais am gyllid diogelwch ar y
ffyrdd dan fentrau 鈥楲lwybrau Diogel mewn Cymunedau鈥 a 鈥楪rant Diogelwch ar y
Ffyrdd鈥 Llywodraeth Cymru.
Mae鈥檙 safleoedd sydd wedi eu nodi ar gyfer eu gwella yn cynnwys Brychdyn (Ysgol
Gynradd Brychdyn), Bwcle (Ysgol Gynradd Heol y Mynydd), yr Wyddgrug (Campws
Mold Alun ac Ysgol Maes Garmon), A541 Pontblyddyn, B5125 Penarl芒g a Ffordd
Llan-Arth / Golftyn Lane, B5126 Ffordd yr Wyddgrug a B5129 Stryd Fawr Cei
Connah.
Cafodd y ceisiadau eu cyflwyno ar 2 Chwefror ac mae鈥檙 Cyngor yn disgwyl clywed
a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ddiwedd mis Mawrth 2018.
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn parhau i edrych ar ffyrdd i wella diogelwch a chysylltedd y
rhwydwaith priffyrdd ac mae鈥檙 ceisiadau ariannol hyn i Lywodraeth Cymru yn mynd
i wneud gwahaniaeth mawr wrth gyrraedd y nod hwn. Er bod dyluniadau cychwynnol
y cynlluniau wedi eu cwblhau, bydd Cyngor Sir y Fflint yn gweithio鈥檔 agos gyda
thrigolion lleol, aelodau etholedig a chynghorau tref a chymuned i sicrhau bod
y cynigion yn diwallu anghenion y cymunedau. Rydw i鈥檔 ffyddiog y bydd
Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo鈥檙 cynlluniau hyn, a fydd yn darparu budd
hirdymor i ddefnyddwyr y ffordd a thrigolion. Hoffaf hefyd ddiolch i鈥檙
swyddogion am eu gwaith caled wrth lunio鈥檙 ceisiadau.鈥