Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwelliannau i gyffordd Bagillt
Published: 20/12/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi diogelu cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella
cyffordd yr A548 a鈥檙 A5026 ym Magillt.
Mae鈥檙 gyffordd hon wedi gweld sawl damwain ddifrifol dros y blynyddoedd. Yn
ychwanegol, Bagillt erbyn hyn yw鈥檙 unig gymuned arfordirol yn Sir y Fflint heb
fynediad diogel i gerddwyr a beicwyr ir arfordir, gyda ffordd ddeuol yr A548
yn torri trwy鈥檙 gymuned leol, gan atal mynediad at lwybrau arfordirol Cymru ac
Aber Afon Dyfrdwy.
Mae鈥檙 gwaith pwysig hwn, a gaiff ei ariannu drwy鈥檙 Grant Diogelwch ar y Ffyrdd,
i fod i ddechrau ddydd Llun, 8 Ionawr, a disgwylir iddo gymryd deg wythnos i鈥檞
gwblhau ac mae鈥檔 cynnwys y canlynol:
- Diwygiadau i鈥檙 lonydd ar ffordd ddynesu鈥檙 A548 at y gyffordd gan gynnwys
cyflwyno 鈥測nysoedd hollti鈥 sy鈥檔 gwahanu traffig gwrthwynebol;
- Gosod signalau traffig newydd gyda chroesfan twcan dros yr A548;
- Adeiladu llwybr beicio/llwybr troed i gysylltu i Lwybr Arfordir Cymru;
- Cau鈥檙 slipffordd bresennol o鈥檙 A548 i鈥檙 A5026;
- Lleihau鈥檙 terfyn cyflymder i 40mya.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd y Cyngor:
鈥淏ydd y cynllun hwn yn gwella diogelwch i ddefnyddwyr y ffordd, gan gynnwys
cerddwyr a beicwyr. Mae ei hanes o ran gwrthdrawiadau wedi鈥檌 waethygu oherwydd
bod cerbydau鈥檔 croesi ei gilydd o鈥檙 ddau gyfeiriad yn ardal y llain ganol, gan
eu gorfodi i groesi darn eang o ffordd sy鈥檔 hynod o brysur ac sy鈥檔 symud yn
gyflym. Bydd preswylwyr lleol a鈥檙 ddwy ysgol yn y pentref hefyd yn manteisio o
allu ymweld 芒鈥檙 llwybrau arfordirol yn ddiogel.
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw oedi ac unrhyw anghyfleustra
y bydd y gwaith yn ei achosi. Mae rhybuddion traffig dros dro wedi鈥檜 rhoi ar
waith i gyfyngu ar fynediad i droi i鈥檙 dde ar yr A548 i鈥檙 gorllewin i鈥檙 St芒d
Ddiwydiannol a bydd y ffordd ar gau i fynd i mewn ac allan o鈥檙 A5026, drwy
gydol y gwaith. Caiff mynediad i fusnesau ac eiddo o gwmpas y gwaith ei gynnal
drwy gyfnod y gwaith gwella pwysig hwn.鈥