每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar y Fargen Twf Gogledd Cymru

Published: 14/12/2017

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael adroddiad cynnydd ar y Fargen Twf Gogledd Cymru yn eu cyfarfod nesaf dydd Mawrth, 19 Rhagfyr. Bu i鈥檙 Bargen Twf, sydd yn cynnig buddsoddiad o 拢1.3biliwn mewn 12 prosiect a gefnogir gan y gronfa Bargen Twf o 拢383.4 miliwn, ei dderbyn yn ffurfiol gan Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y mis diwethaf. Mae chwe Cyngor Gogledd Cymru yn credu y bydd y fargen hon yn trawsnewid economi Gogledd Cymru, gan ei wneud yn graff, yn wydn ac yn gydlynol. Bydd y Bargen Twf yn eistedd ochr yn ochr 芒 rhaglenni ar wah芒n a pherthnasol i wella cysylltedd digidol, rheilffyrdd a ffyrdd a ariennir gan Raglenni Cyfalaf Llywodraeth Cymru a鈥檙 DU. Bydd y Fargen Twf yn creu dros 5,000 o swyddi鈥檔 uniongyrchol, cynyddu cyfradd sefydliadau busnes a thwf o fentrau maint bach a chanolig, cefnogi arloesed mewn gweithgynhyrchu ynni ac uwch, lleihau bod heb waith, a gyda rhaglenni eraill a datblygiad Wylfa Newydd, cynyddu GDP o 拢12.8 biliwn yn 2015 i 拢20biliwn yn 2035. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Cadeirydd Grwp Arweinyddion Twf Economaidd Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae Cynghorau Sir Gogledd Cymru yn falch eu bod wedi cyflwyno cynnig twf ar gyfer Gogledd Cymru. Mae鈥檙 rhanbarth yn unedig wrth adnabod yr angen i drawsnewid y ffordd y mae economi鈥檙 rhanbarth wedi鈥檌 strwythuro, fel y gallwn gynyddu ffyniant a sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn hygyrch i bawb ar draws Gogledd Cymru. Mae鈥檙 Bargen Twf yn arf hanfodol i wneud ein heconomi yn fwy craff, mwy gwydn ac yn fwy cydlynol. Mae鈥檙 chwe Arweinydd y Cynghorau yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraethau Cymru a鈥檙 DU, tra byddwn yn ymdrechu i drafod bargen a fydd yn cyflenwi ein gweledigaeth am economi Gogledd Cymru fwy cynhwysol a ffyniannus. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: 鈥淏ydd y Fargen Twf yn agor buddsoddiad llywodraeth a chyfle sylweddol ar gyfer twf busnes. Un or cymhelliannau i mi oedd y synnwyr o anghyfiawnder, er enghraifft bod buddsoddiad gwael yng Ngogledd Cymru mewn isadeiledd ffyrdd a rheilffyrdd. Mae brys yn Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflenwi鈥檙 cynnig twf yn amlwg iawn. Maer holl bart茂on eisiaur Cynnig gael ei drafod ai gytuno o fewn 2018 fel bod y buddsoddiad yn llifo.