每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llyffantod cefnfelyn yn ffynnu diolch i weithio mewn partneriaeth

Published: 11/12/2017

Yn ddiweddar bu Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn gweithio gyda Network Rail er mwyn gwneud gwaith amgylcheddol pwysig. Treuliodd t卯m o oddeutu 15 o wirfoddolwyr o Network Rail au prif gontractwr ar Gynllun Ail Signalu Arfordir Gogledd Cymru, Siemens, ddiwrnod gydar Ceidwaid Cefn Gwlad yn clirio eithin ac yn cribinio ardal y llyffant cefnfelyn yn Bettisfield, Bagillt. Bu鈥檙 t卯m yn gweithio i glirio鈥檙 ardal lle mae鈥檙 llyffant cefnfelyn wedi ei ail-gyflwyno er mwyn helpu i gynyddu eu cynefin porthi. Mae arnynt angen ardal gyda gwair byr gan eu bod yn hela drwy redeg ar 么l anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn hytrach na hopian fel llyffantod neu frogaod eraill. Mae gwaredu鈥檙 eithin hefyd yn lleihau cynefin y llyffant dafadennog, cystadleuydd uniongyrchol y llyffant cefnfelyn 鈥 yr amffibiad prinaf yng Nghymru. Roedd y llyffant cefnfelyn wedi diflannu o Gymru tan i鈥檙 Ymddiriedolaeth Gadwraeth Ymlusgolegol gyflwyno miloedd o benbyliaid llyffant cefnfelyn i rannau o dwyni Gronant a Talacre yn 1996. Mae鈥檙 rhaglen ail-gyflwyno yn ei thrydedd blwyddyn. Mae鈥檙 unig boblogaethau eraill o lyffantod cefnfelyn yng Nghymru iw canfod yn Nhalacre a Gronant syn golygu bod yr ail-gyflwyno yn gam pwysig o ran datblygur boblogaeth yng Nghymru. Meddai Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 鈥淢ae gwaith partneriaeth rhwng gwirfoddolwyr, busnesau lleol ar Cyngor Sir yn ffordd amhrisiadwy o gadw ein hamgylchedd. Diolch yn fawr iawn i鈥檙 Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw sydd newydd roi 拢2,000 i wella un or ddau bwll dwr neu 鈥渂wll bas鈥 ar y safle ac i Network Rail sydd wedi addo 拢3,700 er mwyn creu trydydd pwll bas ym mis Ionawr. Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Tim Johnson: 鈥淐awsom ddiwrnod gwych, fu鈥檔 llwyddiant mawr. Hoffwn ddiolch i鈥檙 Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw ac i Network Rail am fuddsoddi yn y rhywogaeth ac yn y safle. Hoffwn hefyd ddiolch i鈥檙 t卯m ddaeth allan ddydd Mercher. Fe wnaeth pawb weithio yn galed iawn a gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae鈥檙 ardal yn edrych yn well nag a wnaeth erioed.鈥 Dywedodd Ecolegydd Signalu IP (De) Network Rail, Caitlin McCann: 鈥淢ae鈥檔 wych pan fydd cymaint o grwpiau, gyda blaenoriaethau amrywiol, yn gallu dod at ei gilydd i weithio tuag at un nod, yn yr achos yma, ychwanegiadau bioamrywiaeth ar gyfer y llyffant cefnfelyn ym Magillt. Roedd y t卯m o wirfoddolwyr yn awyddus i wneud gwahaniaeth gan fod llawer ohonynt yn gweithio yn lleol ar Gynllun Ail Signalu Arfordir Gogledd Cymru ac maent wedi datblygu gwerthfawrogiad o鈥檙 amgylchedd a鈥檙 bioamrywiaeth ar a gerllaw鈥檙 rheilffordd. Roedd Tim a鈥檌 wirfoddolwyr yn gwybod cymaint am y rhywogaeth a鈥檙 mentrau bioamrywiaeth sydd ym Magillt ac mewn ardaloedd eraill ar hyd lein yr arfordir. Gadawodd pawb gan deimlo eu bod wedi cyflawni llawer!鈥