每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Teithio Cymunedol yn Parhau i Ehangu

Published: 04/12/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Chynghorau Cymuned Treuddyn, Llanfynydd, Coed-Llai a Phontblyddyn yn ogystal 芒 Brychdyn a Bretton i ddatblygu gwasanaeth teithio cymunedol newydd cynaliadwy ar gyfer yr ardal. Dechreuodd y gwasanaeth Bws Tacsi ar 28 Tachwedd ac mae鈥檔 gweithredu gyda llwybr ac amserlen sefydlog sy鈥檔 galluogi trigolion o鈥檙 ardal i gael mynediad a chysylltu 芒 gwasanaethau allweddol yng Nghanol Tref Yr Wyddgrug. Y cynllun hwn yw鈥檙 diweddaraf yn y fenter Teithio Cymunedol a ddatblygwyd gyda Chynghorau Cymuned a Thref yn Higher Kinnerton, Northop Hall, Cei Connah a Bwcle. Mae鈥檙 gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth 鈥渇fonio a theithio鈥 ar gyfer pobl sy鈥檔 methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn yr ardal. Bydd y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynd i apwyntiadau iechyd/meddygol. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 鈥淢ae mynediad i wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl ddiamddiffyn mewn cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan tror cymunedau yw hi i ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth lle bynnag y bo modd i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i鈥檙 dyfodol. Mae Cynlluniau Cludiant Cymunedol o鈥檙 fath yn hanfodol ac yn dod yn angen brys oherwydd yr hinsawdd economaidd o galedi parhaus.鈥 Mae paratoadau i ddatblygu cynllun cludiant cymunedol tebyg yn Nhreffynnon a鈥檙 cyffiniau eisoes ar waith. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau, ewch i: http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Community-Transport-in-Flin tshire.aspx neu ffoniwch 01352 701234. Cyngor Sir y Fflint yn lansio ei gludiant cymunedol diweddaraf yn Pontybodkin. Yn y llun: Jess Pritchard o鈥檙 Gwasanaeth Strydwedd ynghyd 芒 gyrrwr y bws, Jeff Price, y Cynghorydd David Hughes, y Cynghorydd Carolyn Thomas, y Cynghorydd Ray Hughes a pherchennog y bws, Mark Coates.