Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint
Published: 23/11/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y sir ac mae
wedi rhyddhau dogfen ymgynghori bwysig, sef y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y
CDLl. Bydd fersiwn terfynol y CDLl yn darparu canllawiau cynllunio ar
ddefnyddio tir rhwng 2015 a 2030.
Mae鈥檙 Strategaeth a Ffefrir yn arwain ymlaen o ymgynghoriadau blaenorol 鈥 yn
enwedig rhai sy鈥檔 ymwneud 芒 Thwf Strategol a Dewisiadau Gofodol. Maen
cyflwynor dull a ffefrir o ran twf yn y sir a sut, yn fras, y bydd
datblygiadau wediu gwasgaru ar ei thraws.
Mae鈥檙 Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys creu 8,000-10,000 o swyddi a darparu
6,950 o gartrefi newydd. Mae portffolio o gyfanswm o 223 hectar o dir
cyflogaeth yn y Cynllun hefyd. Mae ystod o 16 o bolis茂au strategol yn darparu
canllawiau ar ystod o bynciau, gan gynnwys tai, cyflogaeth, isadeiledd a鈥檙
amgylchedd.
Maen cynnwys dau safle defnydd cymysg strategol yn Warren Hall, Brychdyn a
Phorth y Gogledd, Glannau Dyfrdwy, sy鈥檔 bwysig ar gyfer twf economaidd yn y
dyfodol, o ystyried pwysigrwydd is-ranbarthol ehangach economi Sir y Fflint.
Mae鈥檙 ymgynghoriad hefyd yn rhoi cyfle i rai sy鈥檔 gysylltiedig roi sylwadau ar
asesiad cychwynnol y Cyngor a dweud a yw鈥檙 darpar safleoedd yn cyd-fynd yn fras
芒鈥檙 Strategaeth a Ffefrir. Mae cyfle hefyd iddynt gyflwyno safleoedd newydd
neu safleoedd eraill i鈥檞 hystyried yn rhan o鈥檙 ymarfer ymgynghori.
Mae鈥檙 Cyngor yn ceisio sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir er mwyn llunior
fersiwn terfynol, cyn mynd ymlaen i baratoi鈥檙 CDLl manwl i鈥檞 archwilio gan y
cyhoedd, a fydd yn cynnwys polis茂au, cynigion, mapiau a dyraniadau tai manwl.
Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淢ae鈥檙 broses o ddod o hyd i ddyraniadau tai wastad yn anodd ac yn llawn
angerdd, ond maen rhaid ir Cynllun ddarparu datblygiadau tai newydd i gwrdd
ag anghenion y sir. R么l a gwerth y Strategaeth a Ffefrir yw sicrhau ei bod yn
darparu sail resymegol i ddatblygu鈥檙 cynllun manwl arni, er mwyn adeiladu
datblygiadau tai mewn lleoliadau cynaliadwy.鈥
Am y tro cyntaf, mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn defnyddio system ymgynghori ar-lein
sy鈥檔 galluogi pobl i weld a gwneud sylwadau ar ddogfen y Strategaeth a Ffefrir
ar-lein. Mae鈥檙 Cyngor yn awyddus i annog pobl i ddefnyddio鈥檙 ffordd hawdd ac
uniongyrchol hon o roi sylwadau ar y Cynllun.
路 Mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i baratoi Cynllun Datblygu Lleol
路 Maer ymarfer ymgynghori yn mynd am 6 wythnos ac maen rhaid cyflwyno
sylwadau erbyn 5.00pm, ddydd Iau 20 Rhagfyr
路 Gallwch weld y Strategaeth a Ffefrir ar y wefan
www.flintshire.gov.uk/ldp/preferredstrategy
路 Mae sawl papur cefndir a dogfen arall i ategu鈥檙 Strategaeth a Ffefrir ac
mae鈥檙 rheini hefyd ar gael ar y wefan
路 Gallwch wneud sylwadau drwy ddefnyddio鈥檙 porth ymgynghori ar-lein, drwy anfon
e-bost, drwy ddefnyddior ffurflen sylwadau neu drwy ysgrifennu atom.
路 Gallwch gyfeirio unrhyw ymholiadau at 01352 703213 neu
developmentplans@flintshire.gov.uk