Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant Diwrnod Atgofion Ysgol
Published: 26/10/2017
Cynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus yn Archifdy Sir y Fflint ym Mhenarl芒g yn
ddiweddar.
Daeth pobl leol draw ir Diwrnod Atgofion Ysgol gan ddod 芒u hen luniau ysgol
gyda nhw. Cafodd rhai eu cyflwyno fel rhodd ac eraill eu sganio a鈥檜 dychwelyd
i鈥檞 perchnogion ac arweiniodd hyn at gynnydd mawr yn y nifer o luniau ysgol
sydd wedi eu cadw yn yr archif.
Ar y diwrnod roedd yna arddangosfa o luniau ysgol, arddangosfa o lyfrau
cofrestru ac arholiad 11 plus o鈥檙 1950au gyda gwobr i鈥檙 enillydd.
Dywedodd Prif Archifydd Cyngor Sir y Fflint, Claire Harrington:
鈥淩ydym wrth ein bodd gyda鈥檙 niferoedd sydd wedi dod yma a鈥檙 sylwadau
cadarnhaol. Mae gennym gasgliad mawr o luniau ysgol ond mae yna rai bylchau, a
dyma pam yr aethom ati i gynnal y digwyddiad hwn. Fe dderbyniom dros 20 o
eitemau ar y diwrnod ac rydym wedi cael mwy ers hynny - po fwyaf o luniau sydd
gennym yna gorau oll fydd y casgliad i鈥檞 fwynhau gan genedlaethau鈥檙 dyfodol.鈥
Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol ar y diwrnod ond y byddech yn hoffi
ychwanegu eich lluniau ysgol ir casgliad, yna ffoniwch 01244 532364 os gwelwch
yn dda a gwneud apwyntiad i ddod i mewn.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
鈥淩oedd hwn yn ddigwyddiad gwych ac fe fyddwn yn annog unrhyw un sydd 芒 hen
luniau ysgol i ddod 芒 nhw i mewn. Mae cyfleuster sganio gan yr Archifdy os
ydych yn dymuno cadw eich lluniau gwreiddiol. Mae鈥檙 bylchau yn y casgliad yn
bennaf yn ardal Glannau Dyfrdwy (Sealand, Queensferry, Shotton a Chei Connah)
felly byddai unrhyw luniau ysgol o鈥檙 ardaloedd hynny鈥檔 cael eu croesawu鈥檔
fawr.鈥