每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plannu Cennin Pedr

Published: 24/10/2017

Ymunodd disgyblion o Ysgol Maes Y Felin 芒 Cheidwaid Cefn Gwlad Sir y Fflint ym Mharc Treftadaeth Maes Glas yn ddiweddar i helpu i blannu bylbiau cennin Pedr. Meddai Karen Rippin, parcmon Sir y Fflint yn Nyffryn Maes Glas: 鈥淏u鈥檙 disgyblion 6 a 7 oed yn helpu i blannu ychydig dros 1,000 o fylbiau ar hyd y llwybrau sy鈥檔 arwain i鈥檙 parc gwledig ac edrych ar bryfed a phryfaid genwair ar hyd y ffordd.鈥 Dywedwyd wrth y disgyblion am gylch oes planhigion a beth sydd ei angen arnynt i dyfu. Gwnaethant ddysgu nad yw pob bwlb cennin Pedr yn felyn, ond byddai鈥檙 bylbiau roeddent yn eu plannu yn blodeuo yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf a byddai eu blodau melyn llachar yn denu ymwelwyr i鈥檙 parc. Dywedodd Mrs. Martin, athrawes yn Ysgol Maes Y Felin: 鈥淩oedd y plant wrth eu bodd yn helpu i blannu鈥檙 bylbiau ac rydym yn bwriadu dod yn 么l yn y gwanwyn i weld y cennin Pedr a chael picnic.鈥