Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
"Off Flint" 鈥 Dathlu ein tref, ein castell a鈥檔 harfordir
Published: 06/10/2022
"Off Flint" 鈥 prosiect newydd cyffrous sy鈥檔 dathlu ein tref, ein castell a鈥檔 harfordir, dan arweiniad Cyngor Sir y Fflint.
Bydd y prosiect yn cynnwys pobl leol wrth gofnodi, cadw a dathlu treftadaeth gyfoethog tref, castell ac arfordir y Fflint.听
Mae wedi cael 拢54,200 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Gan adeiladu ar lwyddiant y Siop Stori yn 2018, gwahoddir unigolion a grwpiau i gymryd rhan trwy gasglu a rhannu hen luniau, arteffactau a straeon dydd i ddydd am y Fflint.听
Bydd y rhain yn ffurfio sail ar gyfer archif gymunedol newydd yn Llyfrgell y Fflint, fel bod yr wybodaeth a gesglir yn hynod hygyrch i bawb.听听
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn brosiect cyffrous iawn ac yn gyfle gwych i adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed yn 2018.听 Rwy鈥檔 gobeithio y bydd pobl yn dod i rannu eu lluniau a鈥檜 straeon, a fydd yn gofnod hanesyddol amhrisiadwy i dref y Fflint a鈥檙 cyffiniau.鈥
Bydd sesiynau galw heibio anffurfiol yn cael eu trefnu yn yr hydref, ynghyd 芒 sesiynau hyfforddiant am ddim ar sgiliau cyfweld, cofnodi a golygu, ar gael i unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn gwirfoddoli gyda鈥檙 prosiect.听听
Gwahoddir ysgolion lleol i ymuno hefyd, gyda chyfleoedd i鈥檙 disgyblion gasglu deunydd a chynorthwyo i ddehongli treftadaeth gyfoethog eu tref, eu castell a鈥檜 harfordir.听
Gweithredir y prosiect am 20 mis, felly bydd digon o amser i rannu a dathlu hanes balch y Fflint.听
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Jo Danson, Swyddog Treftadaeth Cymunedol, ar听01352 703042 neu communityheritageofficer@flintshire.gov.uk.
听