每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Menter Sir y Fflint

Published: 26/07/2017

Yn ddiweddar, fe gynhaliodd Clwb Menter Sir y Fflint ei gyfarfod olaf cyn seibiant dros yr haf. Mae鈥檙 clwb wedi helpu dros 100 o bobl leol i sefydlu eu hunain ym myd busnes ers iddo gychwyn bum mlynedd yn 么l. Maer grwp, syn cael ei reoli gan Cymunedau yn Gyntaf, yn cynghori pobl ar gyrsiau a grantiau a allai fod o fudd iw busnes, yn ogystal 芒 darparu mentor perthnasol iw helpu i ddatblygu eu busnes neu syniad. Mae aelodau鈥檙 clwb yn amrywio ac yn newid o hyd. Yn y cyfarfod diweddaraf, roedd deg o entrepreneuriaid ar gychwyn eu taith ym myd busnes, a phob un ar gam gwahanol, gyda chyfuniad diddorol o syniadau busnes gwreiddiol. Philipa Birch yw鈥檙 鈥楾utu Tailor鈥 sy鈥檔 creu twtws unigryw a hardd a gwisgoedd dawnsio eraill i stiwdios dawns a chleientiaid unigol. Mae hi wedi bod yn masnachu ers mis Rhagfyr 2016. Corinne Farinha yw cyfarwyddwr 鈥楨lite Equestrian Events鈥 鈥 cwmni deinamig sy鈥檔 cynnig gwasanaeth rheoli digwyddiadau wedi鈥檌 deilwra ar gyfer arddangosfeydd, paredau, sioeau, clinigau, digwyddiadau corfforaethol a phriodasau. Mae hi wedi bod wrthi ers mis Hydref 2015 ac mae ar hyn o bryd yn hyfforddi i fod yn hyfforddwr pilates marchogaeth, syn helpu rhai syn marchogaeth ceffylau i wella eu cryfder a鈥檜 cydbwysedd. Mae Ralph Carr sydd wedi bod yn berchen ar Blue Box Enterprises ers pedair blynedd. Gwasanaeth ymgynghori gwyddonol yw hwn, syn cynnig atebion cost-effeithiol i faterion technegol a chynhyrchu. Yn ddiweddar, fe gynhyrchodd f锚l synthetig o鈥檙 enw 鈥淪yntHoney鈥, sydd 芒 holl nodweddion m锚l go iawn ac sy鈥檔 addas ar gyfer pobl fegan. Mae Sylvain Jacquin wedi bod yn gweithio gyda Ralph am ddwy flynedd ac mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ddatblygu a hyrwyddo gwin ipocras, wedii anelu at y marchnadoedd Nadolig a digwyddiadau ail-greu canoloesol. Mae Joanne Powell ar ddechrau ei thaith i ddatblygu ei busnes, 鈥楥ostumes for Children鈥, sy鈥檔 creu gwisgoedd a phropiau. Bydd Joanne yn gweithio gyda phlant a鈥檙 gymuned ehangach i ddod 芒 straeon yn fyw. Nicola Owen ydi perchennog 鈥楾otem Wings鈥. Mae hi鈥檔 hyrwyddwr iechyd, yn dylinwr proffesiynol, yn iach盲wr Reiki ac yn adweithegydd ac mae鈥檔 barod i ail-lansio ei busnes ym mis Medi ar 么l seibiant byr. Lansiodd Caroline Lamont ei busnes, 鈥楾ips on Nails鈥, yr wythnos yma. Mae Caroline yn dechnegydd ewinedd symudol ac mae hefyd wedi鈥檌 hyfforddi i ailadeiladu ewinedd traed ac mae鈥檔 cynnig y gwasanaeth hwn hefyd. Symudodd Carol Britnell i Ogledd Cymru o Dover fis Medi ac, ers hynny, mae wedi troi ei chariad at wenyn yn fusnes, a lansiodd yn swyddogol ar 3 Gorffennaf eleni. Mae鈥檔 cynnig cynnyrch sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwenyn gan gynnwys m锚l, llieiniau cwyr, polis a bydd yn fuan yn cynnig eli ac ymweliadau 芒r cychod gwenyn er mwyn i bobl weld sut maent yn gweithio. Dywedodd Carol: 鈥淢ae鈥檙 clwb wedi fy nghefnogi am hannog gymaint; mae wir wedi bod yn wych. Mae鈥檙 aelodau eraill yn rhannu syniadau ac yn cynnig adborth adeiladol mewn amgylchedd saff. Mae hefyd wedi bod yn gyfle i mi greu ffrindiau, gan fy mod wedi symud i鈥檙 ardal yn ddiweddar.鈥 Yn olaf, mae stori o lwyddiant ysgubol Barry Evans, perchennog 鈥楨vo Lift Safety Products鈥. Mae Barry wedi creu pum dyfais codi i鈥檞 defnyddio yn y diwydiant adeiladu ac mae ganddo batent ar bob un ohonynt. Ar 么l ambell flwyddyn anodd ar ddechrau鈥檙 dirwasgiad, fe ddechreuodd pethau wella o ddifri鈥 yn 2013 ac mae鈥檙 busnes bellach yn mynd o nerth i nerth. Roedd Sandra Donaghue o Mingle for Business hefyd yn y cyfarfod. Dros y misoedd diwethaf, mae鈥檙 clwb wedi bod yn darparu gweithdai Llwybr i Fusnes gyda Sandra. Mae Mingle for Business yn rwydwaith o weithwyr proffesiynol ac entrepreneuriaid sy鈥檔 darparu cymorth busnes a chysylltiadau rhwydweithio effeithiol i rai ym myd busnes ar bob lefel, sy鈥檔 cyfarfod yn rheolaidd ledled Gogledd Cymru a Chaer. Cyflwynwyd tystysgrifau i nifer o鈥檙 rhai a oedd yno hefyd, am y gweithdai roedden nhw wedi bod ynddynt yn Delyn Safety yn yr Wyddgrug, gan gynnwys cymorth cyntaf, diogelwch t芒n, ymwybyddiaeth o asesiadau risg, codi a chario a chyfarpar diogelu personol. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: 鈥淔e fyddwn i鈥檔 annog unrhyw un sy鈥檔 cychwyn arni ym myd busnes 鈥 neu sy鈥檔 meddwl gwneud hynny 鈥 i ymuno 芒 Chlwb Menter Sir y Fflint. Mae gweithdai rhagorol i鈥檞 cael am ddim yn ogystal 芒 chyfleoedd gwych i farchnata eich busnes. Mae鈥檔 le gwych i gael help i ddatblygu syniadau busnes newydd 鈥 mi ydw i鈥檔 dal i gael fy syfrdanu gan y syniadau busnes anhygoel ac amrywiol sydd gan bobl 鈥 ysbrydoliaeth go iawn! Gallwch ddod i鈥檙 clwb am ddim ac mae鈥檔 cyfarfod pob pythefnos. Cynhelir y cyfarfodydd bob yn ail ddydd Gwener o 10.30am tan 12.30pm. Bydd y cyfarfod nesaf ar 1 Medi yn y Regus Business Lounge ym Mharc Brychdyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Cymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 neu anfonwch e-bost at beverly.moseley@flintshire.gov.uk